Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 8 Mehefin 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Llais cryfach i bobl Cymru. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd unrhyw un yma yn anghytuno â’r awydd, a chymeradwyaf waith caled pawb a oedd ar y pwyllgor. Ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth hefyd fod eich calon yn y lle iawn. Fodd bynnag, credaf fod y cynnig yn adroddiad y pwyllgor diben arbennig yn ddiffygiol iawn ac y gallai atal yr union nodau y mae’n ceisio’u cyflawni.
Gadewch imi ddweud yn gwbl glir wrth bob un ohonoch heddiw, fel menyw a greodd hanes yma yng Nghymru y llynedd, fy mod o ddifrif yn dymuno gweld Senedd mor amrywiol a chynhwysol â phosibl, ac ni chredaf y gall unrhyw un ddeall faint rwy'n breuddwydio, heb swnio fel Martin Luther King, am weld Senedd â mwy o fenywod, mwy o bobl o liw, mwy o aelodau o’r gymuned LHDTPC, a mwy o bobl anabl yn eistedd yma yn ein plith bob dydd. Ac rwyf o ddifrif yn gwerthfawrogi awydd y Senedd am gynhwysiant ac amrywiaeth. Fodd bynnag, yn fy marn i gallai cyflwyno cwota rhywedd arwain at fwy o fenywod ar draul grwpiau lleiafrifol eraill a fyddai’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy, rwy’n siŵr, i gyfansoddiad Senedd nesaf Cymru. Fel person o liw, hoffwn rannu rhywbeth pwysig iawn gyda phob un ohonoch heddiw: ni ddylai'r ymgais i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau byth fod ar draul amrywiaeth a chydraddoldeb gwirioneddol.
Rwy’n falch o’r ffaith mai fi yw’r fenyw o liw gyntaf i gael ei hethol yma i Senedd Cymru, ond ni chyrhaeddais yma i sefyll yn eich plith heddiw oherwydd lliw fy nghroen. Mae'n fraint i mi bob dydd fy mod wedi cyrraedd yma yn ôl fy nheilyngdod fy hun a thrwy gystadleuaeth gyfartal ag ymgeiswyr Ceidwadol gweithgar a galluog iawn. Dim cydbwysedd rhwng y rhywiau, dim rhestr fer menywod yn unig, dim gwahaniaethu cadarnhaol. Mae angen i bobl Cymru fod yn argyhoeddedig nad yw Aelodau o’r Senedd hon yma am eu bod yn ‘ticio pob blwch’ neu’n cyflawni rhyw gwota artiffisial.
Nid oes unrhyw sicrwydd fod cwotâu rhywedd o'r fath neu wahaniaethu cadarnhaol hyd yn oed yn gyfreithiol. Ym mis Mawrth eleni, adroddodd yr Huffington Post fod y Blaid Lafur yn rhoi'r gorau i ddefnyddio rhestrau byr menywod yn unig i ddewis ymgeiswyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol y byddai parhau i’w defnyddio ar gyfer seddi San Steffan yn anghyfreithlon. Yn 2018, cymerwyd camau cyfreithiol gan grŵp o aelodau’r Blaid Lafur dros newidiadau arfaethedig i bolisi’r blaid ar gynnwys pobl sy’n hunan-adnabod fel menywod traws yn ffurfiol ar restrau byr menywod yn unig. Mae pŵer Senedd Cymru i ddeddfu mewn meysydd penodol eisoes wedi’i brofi yn y Goruchaf Lys gyda thri Bil yn y gorffennol. Gallai unrhyw her gyfreithiol i’r cynnig hwn achosi oedi sylweddol a golygu na fyddai ar waith ar gyfer etholiadau Senedd Cymru yn 2026.
Mae'r newidiadau arfaethedig yn honni eu bod yn cryfhau Senedd Cymru ac yn cynrychioli pobl Cymru yn well. Ond sut y gall hyn fod yn wir pan fydd yn cael ei orfodi? Mae’r adroddiad yn argymell y dylai fod 16 o etholaethau’r Senedd, gyda phob un yn ethol chwe Aelod o'r Senedd drwy system rhestr gaeedig gyfrannol. Ni allaf weld o gwbl sut y mae hyn yn darparu llais cryf a gwell cynrychiolaeth. Ar ôl darllen llawer o bapurau a gwrando ar ddadleuon di-ri ar hyn, mae hyn yn ddigon i fy nrysu. Mae'r system bleidleisio newydd hon yn cael gwared ar atebolrwydd uniongyrchol cynrychiolwyr etholedig i'w pleidleiswyr ac yn cynyddu grym pleidiau gwleidyddol i orfodi ymgeiswyr ar bobl leol.
Rwy'n sefyll yma heddiw ac yn dadlau yn erbyn yr honiad fod mandad yn bodoli ar gyfer y cynigion hyn. Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig Aelod o’r Senedd y mae eu mewnflwch yn llawn o e-byst gan etholwyr yn mynegi eu pryderon a’u gwrthwynebiad i’r cynnydd yn nifer yr Aelodau yma yn Senedd Cymru wrth symud ymlaen, pan fyddai’n well o lawer gan y cyhoedd pe bai arian yn cael ei wario ar ofal iechyd, ffyrdd, seilwaith ac addysg. Felly, dywedaf wrth Lywodraeth Cymru heddiw: os ydych mor sicr y bydd y cynigion hyn yn gwasanaethu pobl Cymru yn well, rhowch lais cryfach iddynt. Os ydych yn sicr na fyddwch yn hyrwyddo un agwedd ar amrywiaeth dros rai eraill, os ydych o ddifrif yn sefyll o fy mlaen ac yn credu bod pobl Cymru yn fodlon i hyd at £100 miliwn gael ei wario ar fwy o wleidyddion dros y pum mlynedd nesaf, gofynnwch y cwestiwn hwnnw i'r bobl mewn refferendwm. Senedd y bobl yw hon, felly gadewch i bobl Cymru benderfynu.