Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 8 Mehefin 2022.
Un o bob pump ar restr aros yng Nghymru; mwy na 10,000 o bobl yn aros 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; mae ein system addysg yn gwneud cam â phlant, gyda sgoriau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar waelod tabl cynghrair y DU; treth dwristiaeth ar y gorwel, i gosbi busnesau ar ôl iddynt ddioddef colledion aruthrol dros y pedair blynedd diwethaf; ystadegau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n dangos mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd wedi gweld ei heconomi'n crebachu; a methu cefnogi'r genhedlaeth nesaf o berchnogion cartrefi drwy adeiladu cartrefi newydd. Ond eto, dyma ni y prynhawn yma, yn siarad amdanom ni ein hunain. Byddai'n well gan Lafur a Phlaid Cymru wario £100 miliwn i gynyddu maint y lle hwn nag ar flaenoriaethau pobl Cymru. Yn hytrach na chanolbwyntio ar recriwtio mwy o feddygon, nyrsys, athrawon a deintyddion, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o osgoi craffu gan refferendwm ac yn lle hynny, maent yn cuddio y tu ôl i gefnogaeth eu cyfeillion cenedlaetholgar. Byddai'n well ganddynt weld mwy o'u ffrindiau'n cael eu hethol i'r lle hwn o dan yr esgus y byddai'n craffu'n well ar Lywodraeth Cymru, ond pan ddaw'n fater o graffu, ac ymchwiliad COVID sy'n benodol i Gymru, nid oedd gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn craffu o gwbl. Ond rydym i gyd yn gwybod heddiw beth yw'r gwir reswm pam ein bod yn sôn am y cynigion hyn: mwy o swyddi i'r bechgyn i'r Blaid Lafur, a sicrhau Llywodraeth Lafur yma ym Mae Caerdydd ymhell i'r dyfodol.
Clywsom gan Darren Millar yn gynharach am faniffesto Llafur, a chlywsom nad oedd sôn ynddo'n uniongyrchol am y ffaith y byddai cynnydd ym maint y Senedd hon. Tybed pam y digwyddodd hynny. Y rheswm oedd bod y Blaid Lafur yn gwybod y byddai dewis mwy o wleidyddion tra bod pobl wedi bod yn gwneud eu gorau dros ein GIG yn ystod pandemig COVID yn sicr o gael pobl i godi eu clustiau.
Oes, mae dadl dros ddiwygio'r Senedd—fel y'i cyflwynwyd mor niwlog yn eich maniffestos a gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau i chi—ond mae arnaf ofn mai'r hyn nad oedd yn y maniffesto oedd y costau, nifer y gwleidyddion, y system bleidleisio a fyddai'n dilyn yn y cyhoeddiad rhwng y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru. Dyna pam y dylid cynnal pleidlais gyhoeddus ar y newid cyfansoddiadol sylweddol hwn. Ond gwyddom i gyd—mae pob un ohonom yn gwybod—fod gan Lafur a Phlaid Cymru hanes ofnadwy pan ddaw'n fater o ymddiried ym mhobl Cymru drwy ofyn iddynt beth yw eu barn. Mae'r amser a dreuliodd y ddwy blaid yn y lle hwn yn ceisio rhwystro Brexit ar ôl i bobl Cymru bleidleisio drosto yn ddigon o dystiolaeth o hynny. Ac yn y gorffennol cafodd unrhyw newid cyfansoddiadol mor arwyddocaol â hwn, a lle y cynigir newid i'r system bleidleisio, ei wneud yn destun pleidlais gyhoeddus. Edrychwch ar y refferendwm ar y bleidlais amgen yn 2011; mae'r cynsail hwnnw eisoes yn glir. Mae angen inni ddangos i bobl Cymru ein bod yn ymddiried ynddynt hwy i wneud y penderfyniadau hyn ac nid rhyw gartél clyd ym Mae Caerdydd sy'n ein llusgo tuag at annibyniaeth drwy'r drws cefn. Oherwydd efallai mai dyna fyddai'r canlyniad yma: dywedodd Plaid Cymru yn eu datganiad eu hunain ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl llofnodi'r cytundeb cydweithio mai dyma oedd eu nod. Fe wnaethant ddweud y byddai diwygio'r Senedd yn darparu Senedd sy'n addas ar gyfer Cymru annibynnol. Gwyddom nad dyna y mae pobl Cymru am ei gael. Dyna pam y mae angen inni ei roi i bleidlais.
Nid lle gwleidyddion yn y Senedd yw penderfynu a ddylid cynyddu ein niferoedd ai peidio; byddai hynny fel tyrcwn yn pleidleisio i ganslo'r Nadolig. Ond i'r rheini ohonom sy'n credu, ar ei gorau, y gall y Senedd fod yn lle gwirioneddol dda, lle sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru, mae angen inni sicrhau bod pobl Cymru, ar bob cam posibl, yn gwybod bod y Senedd hon yn eiddo iddynt hwy yn llawer mwy nag y mae'n eiddo i ni. Os yw'r Senedd hon yn credu mewn datganoli, mae angen cydsyniad y bobl y mae'n eu gwasanaethu i gryfhau'r achos hwnnw pan wneir newidiadau mor sylweddol â hyn. Mae'r ateb y byddant yn ei roi inni'n bwysig, a dylem weithredu ar y canlyniad, beth bynnag y bo, ond nid yw mor bwysig â'n bod ni'n gofyn y cwestiwn hwnnw yn y lle cyntaf, oherwydd os yw'r lle hwn o ddifrif yn mynd i gynrychioli ac adlewyrchu pobl Cymru yn yr holl ffyrdd yr ydym wedi'u clywed heddiw, hwynt-hwy a ddylai wneud y penderfyniad hwnnw. Nid ein lle ni yw dweud wrth bobl Cymru beth sydd orau iddynt. Hwy a ddylai ddweud hynny wrthym ni. Hwy sy'n rhoi ein mandad i ni a byddem yn ffyliaid i anghofio hynny.