Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 8 Mehefin 2022.
Yn gyntaf, hoffwn gofnodi fy niolch i Huw Irranca-Davies, fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, a phob un o fy nghyd-aelodau eraill o'r pwyllgor. Roedd ein trafodaethau yn y pwyllgor yn gadarnhaol ac yn adeiladol, ac rwy'n ddiolchgar i'r amrywiaeth o sefydliadau ac arbenigwyr a ddaeth i roi tystiolaeth i ni, ac am waith y panel arbenigol a'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Senedd flaenorol.
Nid ein gwaith ar y pwyllgor hwn oedd dechrau'r daith, fel y dywedodd Huw eisoes, ac roedd yn ddefnyddiol iawn gallu adeiladu ar y dystiolaeth a'r ymdrechion yr oedd eraill eisoes wedi'u gwneud. Mae'r argymhellion yn ein hadroddiad yn bellgyrhaeddol ac yn arwyddocaol. Mae'n iawn bwrw ymlaen arnynt ar sail cytundeb trawsbleidiol. Nid oes amheuaeth na fu'n rhaid cyfaddawdu, ond dyma'r math o wleidyddiaeth aeddfed y mae pobl Cymru wedi dod i'w disgwyl.
Ar faint y Senedd, mae hyn wedi bod yn destun dadl a thrafodaeth ers 20 mlynedd. Gwyddom i gyd fod y sefydliad hwn wedi newid yn eithriadol ers sefydlu'r Cynulliad ym 1999. Felly, mae'n iawn ein bod o'r diwedd yn cymryd camau i sicrhau bod y Senedd mewn sefyllfa briodol i wneud y gwaith.
Ceir amrywiaeth o safbwyntiau bob amser ar systemau pleidleisio, ond mae'r cynnig ar gyfer system sy'n deg ac yn gymesur. Bydd yn sicrhau bod pob Aelod o'r Senedd yn cael ei ethol gyda'r un mandad, ac mae'n galluogi pleidiau i weithredu ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy greu rhestrau ymgeiswyr 'am yn ail'. Mae hwn yn gam y mae Llafur Cymru yn ei gymryd ar hyn o bryd ac mae wedi bod yn ffordd bwysig o sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhlith ein Haelodau o'r Senedd.
Roedd gweithredu i sicrhau amrywiaeth y Senedd hon yn rhan bwysig o drafodaethau'r pwyllgor. Mae'n hanfodol fod y Senedd yn wirioneddol gynrychioliadol o Gymru, ac mae'r pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion i hyrwyddo'r amcan pwysig hwn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld hyn yn datblygu. Ceir nifer o oblygiadau manwl y bydd angen i Lywodraeth Cymru a'r Senedd eu hystyried. Yn wir, mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Ond mae hon yn foment ddiffiniol yn ein hanes, ac os penderfynwn, byddwn yn sicrhau, beth bynnag a wynebwn yn y dyfodol, fod ein Senedd wedi'i harfogi yn y ffordd orau bosibl i weithio dros bobl Cymru ac i'w gwasanaethu.