Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 8 Mehefin 2022.
Gadewch imi ddechrau drwy ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor, aelodau yn y gorffennol a'r presennol, a staff y Comisiwn a weithiodd i lunio'r adroddiad a'r argymhellion ar gyfer heddiw. Diolch hefyd i'r panel arbenigol o dan gadeiryddiaeth Laura McAllister, a gomisiynwyd bum mlynedd yn ôl gan Gomisiwn y Senedd i gyflwyno argymhellion ar ddiwygio'r Senedd. Mae un o'r argymhellion hynny eisoes wedi'i ddeddfu i alluogi pobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio yn 2021, a bydd gweddill yr argymhellion yn gyffredinol yn cymryd cam mawr ymlaen heddiw os caiff y cynnig hwn ei gymeradwyo. Os bu adroddiad erioed na fu'n gorwedd yn segur ar silff yn hel llwch, mae'n ddigon posibl mai adroddiad panel arbenigol Laura McAllister yw hwnnw.
Dyna ran o hanes byr y rheswm pam ein bod yma'n cael y ddadl hon heddiw, ond wrth gwrs, mae yna hanes hirach hefyd. Weithiau, rydym yn gwneud y camgymeriad fod datganoli—ein Senedd—yn perthyn i ni'n llwyr, y genhedlaeth sy'n rhychwantu dosbarth '99, fi a Jane Hutt yn 1,000 oed yng Ngwlad yr Iâ, a dosbarth '21, ond mae'n perthyn i gynifer o'n rhagflaenwyr gwleidyddol ac i'n holynwyr hefyd, o ddosbarth 2026 i ddosbarth 3026 a thu hwnt.
Nid yw datganoli ychwaith yn perthyn i un traddodiad gwleidyddol yng Nghymru, ond i lawer o draddodiadau gwleidyddol; i'r rhagflaenwyr hynny, o S.O. Davies, Jim Griffiths ac Elystan Morgan, i Megan Lloyd George, i Gwynfor Evans ac i fy ewythr Jack—J.B. Evans—Ceidwadwr ar hyd ei oes o sir Gaerfyrddin, ymgeisydd ac asiant seneddol, ac o blaid datganoli. Ef yn unig a oedd yn gyfrifol am roi sticer 'Ie dros Gymru' i mi yn 12 oed i'w wisgo ar fy ngwisg ysgol ym mis Mawrth 1979.
Roedd y ddadl wleidyddol ar ddatganoli yn rhychwantu'r ugeinfed ganrif ar ei hyd, ond nid datganoli democrataidd oedd man cychwyn gwirioneddol datganoli ym 1999; datganoli gweinyddol oedd ei sylfeini cyntaf. Cefais fy atgoffa o bwysigrwydd hyn wrth wrando ar yr Arglwydd John Morris ychydig wythnosau yn ôl yn y Senedd yn siarad am Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru ym 1964, Jim Griffiths—penodiad mor bwysig gan Lywodraeth Lafur newydd y DU ar y pryd, ond a ragflaenwyd gan benodi Gweinidog cyntaf y Swyddfa Gartref dros Faterion Cymreig gan Lywodraeth Geidwadol ym 1951, a hynny ynddo'i hun yn dilyn creu bwrdd addysg Cymru ym 1907 gan y Llywodraeth Ryddfrydol. Roedd pwerau gweithredol yr Ysgrifennydd Gwladol ym 1964 wedi'u cyfyngu'n wreiddiol i gyfrifoldeb dros dai, llywodraeth leol a ffyrdd. Yn ystod y 10 mlynedd nesaf, ychwanegwyd cyfrifoldebau dros iechyd ac addysg, amaethyddiaeth a'r amgylchedd—meysydd cyfrifoldeb a ddaeth yn y pen draw yn gyfrifoldebau democrataidd y Cynulliad etholedig cyntaf hwnnw ym 1999.
Yn y Siambr hon, rydym wedi clywed heddiw, rydym yn gyfarwydd â'r hyn sydd wedi digwydd ers 1999: cynyddu a throsglwyddo pwerau a chyfrifoldebau sylweddol gan Lywodraethau olynol yn y DU o San Steffan i Gymru. Ni fyddem yma heddiw yn trafod diwygio'r Senedd oni bai am drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros etholiadau'r Senedd gan Lywodraeth Geidwadol y DU drwy Ddeddf Cymru 2017 o San Steffan i'r Senedd hon. Pam, felly, y bu imi deithio ar hyd llwybr hanes datganoli? Wel, mae'n ein hatgoffa i gyd ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn heddiw oherwydd amryw byd o weithredoedd a phenderfyniadau gan bobl o wahanol liwiau gwleidyddol dros ganrif a mwy. Ac yn awr, yn nhrydydd degawd yr unfed ganrif ar hugain, rydym yn wynebu'r cwestiwn a ydym o'r diwedd am roi'r arfau i'n Senedd wneud y gwaith yn iawn, gyda'n set bresennol o bwerau, a chyda'r arfau i ymgymryd â mwy o bwerau, os a phan gânt eu datganoli neu eu mynnu.
Mae pob dadansoddiad annibynnol a gomisiynwyd o'n Senedd wedi dod i'r casgliad nad oes gennym ddigon o adnoddau o ran nifer yr Aelodau etholedig i wneud y gwaith o ddwyn Llywodraeth i gyfrif ac i graffu ar ddeddfwriaeth a chyllidebau a'u pasio. Dylai aelodau seneddau ym mhobman yn y byd gael amser i ddatblygu arbenigedd gwirioneddol mewn meysydd pwnc, er mwyn gallu craffu'n fforensig ar benderfyniadau gweinidogol, a gallu ymchwilio a dysgu am gynigion polisi gwych i'w cyflwyno yma yng Nghymru. Ond mae'r rhan fwyaf ohonoch dan bwysau enfawr gan lwyth y gwaith o ddydd i ddydd yma. Fel Llywydd, rwy'n gwylio pob un ohonoch—y 58 ohonoch—yn arweinwyr pleidiau, Gweinidogion Llywodraeth, meincwyr cefn yn eistedd ar ddau neu dri phwyllgor, yn cadeirio pwyllgorau, llefarwyr yn cyflwyno nifer o areithiau a chwestiynau yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos, yn cadeirio ac yn mynychu grwpiau trawsbleidiol, yn ogystal â'ch holl waith etholaeth, a chaf fy atgoffa o'r ffaith, yn adroddiad panel arbenigol Laura McAllister, lle y dywedodd nad yw 115 o ASau yn San Steffan yn eistedd ar unrhyw bwyllgor nac yn cyflawni unrhyw rôl ychwanegol yn y Llywodraeth na'r wrthblaid. Nid oes gan neb y moethusrwydd hwnnw yma, ac ni fyddent yn ei gael ychwaith mewn Senedd 96 Aelod.
Gallwn barhau a gwneud ein gorau glas fel 60 Aelod, neu gallwn rymuso'r genhedlaeth nesaf o wleidyddion Cymru yn iawn—a rhai ohonoch chi yw'r gwleidyddion hynny—i gael y Senedd y mae pobl Cymru yn ei haeddu o'r diwedd.