Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 8 Mehefin 2022.
Dwi jest eisiau ehangu ar y pwynt roedd y Llywydd, a dweud y gwir, yn ei wneud ynglŷn â chapasiti a diffyg capasiti yn y Senedd. Byddwch chi'n gwybod fy mod i'n cadeirio pwyllgor yn y Senedd, Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Mae remit y pwyllgor yna yn eang iawn, fel mae'r teitl yn awgrymu. Rŷn ni'n sôn am yr amgylchedd, rŷn ni'n sôn am newid hinsawdd—sy'n agenda allweddol i ni fel ag y mae ar hyn o bryd—mae ynni yn dod i mewn iddi, 'retrofit-o' tai, mae'r system gynllunio, mae cynllunio gofodol ar y tir ac ar y môr. O safbwynt isadeiledd, rŷn ni'n sôn am drafnidiaeth, pob agwedd o drafnidiaeth. Rŷn ni'n sôn am reilffyrdd, am fysiau, am ffyrdd. Rŷn ni'n sôn hefyd am gysylltedd megis band eang ac yn y blaen. Mae gyda chi sawl pwyllgor yn San Steffan ac mewn Seneddau eraill yn y byd yma i ddelio â'r rheini, ond mae'r rheini i gyd yn dod o fewn remit un pwyllgor, a chwech Aelod sydd ar y pwyllgor yna. Chwech Aelod sydd yn gorfod cael y dyfnder gwybodaeth a deallusrwydd o safbwynt y meysydd yna i gyd i wneud eu gwaith yn effeithiol. Ychwanegwch chi at hynny y ffaith bod y rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yna yn eistedd ar bwyllgorau eraill hefyd. Dyna'r math o issues capasiti sydd gennym ni. Dwi yn ogystal yn lefarydd fy mhlaid ar gyllid a llywodraeth leol, cyfrifoldeb ychwanegol eto, heb sôn, wrth gwrs, am y gwaith rŷn ni i gyd yn ei wneud yn ein hetholaethau o safbwynt gwaith achos yn cynrychioli ein hetholwyr ac yn y blaen ac yn y blaen. Ac mae hynny—. Rŷn ni'n gwybod hyn, ond mae'n bwysig bod pobl yn clywed hyn.
Dyna ichi jest gipolwg ar y problemau capasiti sydd gennym ni erbyn hyn, ac mae hynny yn cael effaith ar ein gallu ni i graffu yn y dyfnder ac yn y manylder y dylem ni ei wneud ar bolisïau, ar ddeddfwriaeth ac yn y blaen. Felly pan fo pobl yn sôn am gost, ie, gallwn ni ei alw fe'n gost, ond gallwn ni hefyd ei alw fe'n fuddsoddiad. Mi fyddai fe'n fuddsoddiad mewn capasiti a fyddai'n golygu wedyn, wrth gwrs, fod y polisïau, y rheoliadau, y ddeddfwriaeth sy'n cael eu craffu a'u pasio yn y Senedd yma yn fwy effeithiol, yn fwy effeithlon, a chyda llai o ganlyniadau annisgwyl—unintended consequences—fyddai, wrth gwrs, yn golygu llai o gostau ychwanegol nad oedd modd eu rhagweld nhw yn y pen draw. Felly, dwi'n gweld hwn fel buddsoddiad, nid cost. Yn fwy na hynny, wrth gwrs, mae e'n fuddsoddiad sydd yn dod ag elfennau positif eraill, megis ehangu cynrychiolaeth i sicrhau bod yna fwy o gydbwysedd a mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sydd yn cynrychioli yn y Senedd yma.