9. Dadl: Darlledu

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 14 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:16, 14 Mehefin 2022

Am ddegawdau, mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu o blaid datganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru. Mae cyhoeddiad heddiw felly'n foment bwysig a hanesyddol wrth inni symud gam yn nes at hyn yn sgil ffurfio'r panel arbenigol. Yn wir, gellir olrhain y frwydr hon nôl i'r 1970au, cyn i rai ohonom sydd yma heddiw gael ein geni, gyda galwadau Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith am wasanaeth teledu Cymraeg, ac yna, wrth gwrs, ymgyrch Gwynfor Evans am sianel deledu Gymraeg, lle gwnaeth fygwth ymprydio os nad oedd Llywodraeth Margaret Thatcher yn sefydlu sianel.

Wedi'r cyfan, mae gennym ni ein timau chwaraeon ein hunain, ein sefydliadau cenedlaethol, gan gynnwys y Senedd hon, ein hiaith ein hunain, ac mae'n gwneud synnwyr inni hefyd fod yn gyfrifol am ddarlledu a chyfathrebu. A dwi'n falch o weld y Llywodraeth, yn sgil y cytundeb cydweithio, bellach yn cefnogi hyn, a dwi'n nodi pwyntiau Alun Davies nad ydy'r Blaid Lafur yn unedig ar hyn, ond dwi yn falch o weld ein bod ni'n gallu cydweithio a gweld gwerth o fewn hyn drwy'r cytundeb.

Pam mae hi'n bwysig i ddatganoli darlledu? Wel, mae diffygion yn y cyfryngau yn achosi bylchau gwybodaeth yma yng Nghymru, ac fe fyddai datganoli darlledu a sefydlu'r panel hwn—mae'n mynd i helpu i gau'r bwlch. Yn 2016, dim ond 37 y cant o bobl yng Nghymru oedd yn gwylio BBC Wales Today ac 17 y cant yn gwylio ITV Wales at Six. Gyda chymaint o bobl ein cenedl felly yn derbyn newyddion Prydeinig yn hytrach na chynhenid, mae hyn yn creu diffyg democrataidd ac ymwybyddiaeth wleidyddol. Yn wir, canfu astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd a YouGov fod 40 y cant o bobl yng Nghymru yn credu'n anghywir fod Plaid Cymru mewn Llywodraeth rhwng 2011 a 2016. Yn amlwg, fe hoffwn pe bai hynny wedi bod yn wir, ond onid ydy o'n hynod bryderus dros ben nad oedd 40 y cant o'r boblogaeth ar y pryd yn gwybod pa blaid oedd yn gyfrifol am benderfyniadau oedd yn effeithio gymaint ar eu bywydau o ddydd i ddydd?

Mae'r diffyg hwn yn cael effeithiau pellach ar bobl Cymru. Nododd 'Adroddiad Cysgodol NGO ar y Cyd ar Anghydraddoldeb Hiliol yng Nghymru' yn 2021 y canlynol, ac rwyf yn dyfynnu:

'gan nad oes gan Gymru hunaniaeth annibynnol gref yn ei chyfryngau, bydd agenda'r wasg yn Lloegr yn aml yn cael ei adleisio yng Nghymru. Mae sylw’r cyfryngau Saesneg i ymfudwyr a ffoaduriaid yn peri pryder arbennig, gydag iaith ymrannol ac ymfflamychol fel "heidio" a "goresgyn" yn cael ei defnyddio i gyfeirio at y rhai sy’n ceisio lloches yn y DU. Yn fwy diweddar, yn 2020, derbyniodd y BBC a Sky News dros 8,000 o gwynion ar ôl darlledu delweddau byw o ymfudwyr yn croesi'r môr o Ffrainc i Loegr. Ymatebodd yr Aelod Seneddol Llafur Zarah Sultana: "dylem sicrhau nad yw pobl yn boddi wrth groesi'r Sianel, nid eu ffilmio fel pe bai’n rhyw sioe deledu realiti grotesg."

'Felly, rydym yn dadlau bod sylw cyfryngau Lloegr i ymfudwyr a ffoaduriaid yn ystod y blynyddoedd diwethaf nid yn unig yn peri pryder gan ei fod yn ymrannol, yn ymfflamychol ac yn annynol, ond ei fod hefyd yn mynd yn groes i safbwynt Ll/Cymru ar fudo fel "Cenedl Noddfa".'

Dengys hyn, felly, sut mae’r ffaith bod cyfathrebu a darlledu heb ei ddatganoli yn tanseilio ein hanian a’n hamcanion fel cenedl.

Wrth gwrs, newidiodd rhai pethau yn sgil COVID. Ac, yn 2020, cynyddodd ffigyrau gwylio BBC Wales Today i 46 y cant o’r boblogaeth, sy’n dangos bod pobl wedi sylweddoli, am y tro cyntaf, efallai, fod materion pwysig fel iechyd ac addysg o dan gyfrifoldeb y Senedd hon yn hytrach na Llundain. Dangosodd y pandemig, felly, bwysigrwydd darparu cyfryngau cynhenid Cymreig i ddarparu gwybodaeth i bobl sy'n byw yng Nghymru. 

Felly, allaf i ddim gorbwysleisio pam bod heddiw wir yn ddiwrnod pwysig wrth i ni wneud cynnydd pellach yn y maes hwn, er mwyn dod â holl fanteision posibl datganoli darlledu a chyfathrebu i Gymru. Os ydyn ni eisiau mwy o bobl i gymryd diddordeb yn ein democratiaeth, i graffu ar ein penderfyniadau, a phleidleisio, yna mae'n rhaid iddynt gael y cyfle i dderbyn gwybodaeth am yr hyn sydd yn digwydd yma.