Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 14 Mehefin 2022.
Rwyf i’n croesawu'r cyfle heddiw i siarad am y ddadl amserol iawn hon. Rwy’n credu y dylai darlledu o Gymru, o bob math, ar ei orau, adrodd ein stori genedlaethol, a dylai adlewyrchu diddordebau ac angerdd Cymru. Nid yw hyn yn ymwneud â gwleidyddiaeth neu newyddion yn unig, er fy mod yn cytuno eu bod yn ffurfio rôl bwysig, ond mae ein cenedl yn angerddol ac yn falch o bêl-droed, ac mae am ymgysylltu â'i gêm genedlaethol. Llywydd, mae cynghreiriau menywod a dynion Cymru'n tyfu mewn poblogrwydd, ond, os ydym ni am adeiladu'n wirioneddol ar hyn, yna rhaid darlledu'r cynghreiriau'n fyw, yn rhad ac am ddim i'w gwylio, yn rhad ac am ddim i wrando.
Rwyf am dalu teyrnged yma i'n darlledwr cenedlaethol, S4C, oherwydd mae S4C yn gefnogwr hirsefydlog a chyson o'r gêm yng Nghymru, ac rwy’n credu y gellir ei disgrifio'n sicr fel cartref pêl-droed Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod fy mod wedi cyflwyno nifer o gwestiynau ysgrifenedig ar y mater hwn, ac mae'n fraint fawr gwylio Sgorio, i wylio'r darllediadau byw o gynnydd tîm cenedlaethol Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd, ac mae hefyd yn bwysig nodi pa mor wych yw gwylio darllediadau byw BBC Cymru o bob gêm wrth i ferched Cymru geisio cymhwyso ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd 2023, ac wrth gwrs rydym ni’n dymuno bob llwyddiant iddyn nhw yn Siambr y Senedd hon.
Llywydd, y tymor diwethaf yn unig, mae S4C wedi darlledu 47 o gemau byw o Uwch Gynghrair Cymru a chystadlaethau cwpan cenedlaethol Cymru. Ond dylem fod yn anelu at ddarlledu mwy bob wythnos, a chynyddu'n sylweddol y sylw a roddir i gêm y menywod. Bydd yr Aelodau'n gwybod, a bydd y Llywydd yn gwybod, y byddaf yn datgan buddiant yma, gan fy mod yn aelod di-dâl, balch ac yn llysgennad clwb i bencampwyr gwych Uwch Gynghrair Cymru, Cei Connah.
Llywydd, rwyf i’n cefnogi heddiw ysbryd y cynnig wrth sefydlu panel arbenigol, ac edrychaf ymlaen at weld y manylion a ddaw o'r panel arbenigol, a'r cynigion ynghylch yr hyn y bydd datganoli darlledu yn ei olygu i'n cenedl. Ond rwy'n ei weld fel cyfle delfrydol i wella darlledu ar gyfer ein cynghreiriau cenedlaethol a'n pêl-droed rhyngwladol. Fy uchelgais i, Gweinidog, yw dod allan o'r broses hon a, phan fydd y panel arbenigol yn cyhoeddi ei gynigion manwl, y bydd pêl-droed cynghrair Cymru, cynghreiriau'r menywod a'r dynion, yn cael ei ddarlledu'n fyw—mwy o gemau, yn amlach, yn rhad ac am ddim i'w gwylio, yn rhad ac am ddim i wrando, yn y ddwy iaith genedlaethol. Byddwn yn ddiolchgar pe gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr ynghylch a yw'n cytuno â fy uchelgais, ac a wnaiff ymrwymo, heddiw, i gyflwyno’r uchelgais hwnnw i'r panel arbenigol a gofyn iddyn nhw ymateb yn uniongyrchol iddo. Diolch yn fawr.