Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch, Llywydd. Mae darlledu yn bwnc sydd wedi bod ar flaen agenda y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. Dŷn ni fel pwyllgor wedi derbyn tystiolaeth gan lu o randdeiliaid sy'n awgrymu'n gryf fod angen newidiadau i helpu'r cyfryngau yng Nghymru, er bod amrywiaeth barn ynglŷn â sut i wneud hynny, ac fe wnaf i sôn ychydig yn fwy am hynny yn y man. Ond yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged i'r gwaith pwysig a wnaed yn y maes hwn gan y pwyllgor blaenorol, pwyllgor diwylliant a chyfathrebu y pumed Senedd, achos y gwaith rŷn ni'n ei drafod heddiw, yn sicr ynglŷn â sefydlu panel arbenigol i archwilio creu awdurdod darlledu a chyfathrebu cysgodol i Gymru, gosodwyd sylfeini'r gwaith hwnnw gan y pwyllgor blaenorol.
Fyddai'r ddadl hon ddim yn digwydd heddiw oni bai am y gwaith a wnaed gan y pwyllgor hwnnw yn y pumed Senedd. Gwnaethon nhw hel tystiolaeth am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ac fe wnaethon nhw symud y ddadl ymlaen, ac ysgogi Ysgol Newyddiaduriaeth Caerdydd i gomisiynu ymchwil i lenwi'r bylchau lle doedd tystiolaeth ddim yn bodoli. Gwnaeth yr ymchwil hwnnw ddangos bod diffyg sylw yn y wasg Brydeinig i feysydd wedi'u datganoli, ac fel canlyniad roedd diffyg democrataidd. Doedd pobl Cymru ddim wastad yn deall polisïau Cymreig ac amlygwyd y broblem yma gan COVID. Achoswyd cymhlethdodau di-ri yn gynnar yn y pandemig gan ystyfnigrwydd rhai sylwebwyr wrth iddynt sôn am 'the Health Secretary', yn lle cydnabod bod Gweinidogion iechyd gwahanol i bob cenedl. Ac arweiniodd y cymhlethdod hwn at broblemau oedd ddim dim ond yn gyfansoddiadol, fel roedd y pwyllgor blaenorol wedi clywed, ond a oedd yn faterion iechyd cyhoeddus. Roedd yn rhaid i sylwebwyr Prydeinig fod yn glir wedyn, am y tro cyntaf erioed, fod iechyd yn faes datganoledig a bod angen cydnabod hynny. Mae camhysbysrwydd, misinformation, yn peryglu mwy na democratiaeth; mae'n gallu peryglu bywydau pobl hefyd.
Ac i droi at ein pwyllgor ni, pwyllgor diwylliant, cyfathrebu et al y chweched Senedd, bydd yna amrywiaeth barn ymysg aelodau'r pwyllgor yn amlwg. Ym mis Tachwedd llynedd, pan gyhoeddwyd adroddiad Ofcom ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gwnaethon ni fel pwyllgor adrodd ar sut byddai'r argymhellion yn effeithio ar Gymru. Cymeradwyon ni argymhellion Ofcom ynglŷn â'r angen am ddeddfwriaeth a fyddai'n cryfhau PSBs sy'n wynebu mwy a mwy o gystadleuaeth o wasanaethau ffrydio byd-eang, fel Netflix. Argymhellon ni fod angen llais cryfach ar Gymru pan ddaw i benderfyniadau. Fe wnaethon ni ddadlau y dylai DCMS a'r panel ymgynghorol darlledu gwasanaeth cyhoeddus gynnwys cynrychiolwyr o Gymru yn eu trafodaethau am y sialensiau sy'n wynebu PSBs yn yr oes ddigidol. Wnaethon ni ddadlau bod angen meddwl yn arbennig am amddiffyn rhaglennu yn yr iaith Gymraeg, a chynnwys sy'n adlewyrchu Cymru yn y ddwy iaith.
Mae'n glir bod angen newid o ryw fath yn y ffordd mae penderfyniadau am ddarlledu yn cael eu gwneud. Eto, bydd yna amrywiaeth barn am hyn, ond mae'r tirlun darlledu yng Nghymru yn un cymhleth; mae sialensau a chyfleoedd penodol i ddarlledwyr, ac mae anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru yn unigryw. Mae hwn yn faes lle bydd ein pwyllgor yn ymddiddori yn sicr dros y misoedd a'r blynyddoedd sydd i ddod. Rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu talu teyrnged i waith y pwyllgor blaenorol. Bydd gwahaniaeth barn yn y Siambr am ddiben y ddadl hon, ond heb os, mae'r dylanwad y cafodd y pwyllgor hwnnw'n un sydd angen ei glodfori. Mae'n dangos pa mor bwysig ydy gwaith pwyllgor a pha mor ddylanwadol mae'n gallu bod ar gyfer dyfodol Cymru. Diolch.