Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 14 Mehefin 2022.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi synnu braidd o weld yr eitem hon ar ein papur trefn ar gyfer y prynhawn yma a'r ddadl sydd wedi bod yn digwydd. Rwyf i yn cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd y Gweinidog wrth agor y ddadl, ond rwyf i bob amser yn teimlo bod dadleuon ar y materion hyn braidd yn anfoddhaus ac, yn y pen draw, yn siomedig. Oherwydd yr hyn sy'n tueddu i ddigwydd—a gwelsom hyn gan rai o'r siaradwyr Ceidwadol y prynhawn yma—yw bod pobl ar ddwy ochr y ddadl, naill ai'n gryf o blaid datganoli neu'n gryf yn erbyn datganoli, yn arddangos y meddylfryd gwan a gwamal sy'n arwain at bolisi annhebygol ac annigonol. Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw deall beth yw'r problemau yr ydym ni eisiau eu datrys. Mae materion difrifol i fynd i'r afael â nhw yma, ac rwy'n credu, Gweinidog, y dylem ni wneud hynny yn y ffordd y mae tuedd i Lafur Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn, sef rhoi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd y Gweinidog yn ei dadansoddiad o rai o'r materion yr ydym yn eu hwynebu. Nid yw'r systemau presennol sydd gennym o reoliadau a'r strwythurau a'r fframweithiau sydd gennym yn addas i'r diben, ac nid ydyn nhw'n cyflawni'r hyn sydd ei angen arnom fel cenedl. Fel rhywun a gafodd ei fagu mewn cymuned Saesneg ei hiaith, nid oes lle i'n diwylliant, i'n mynegiant cenedlaethol yn nhirwedd y cyfryngau heddiw; nid oes lle iddo o gwbl. Ac am y rheswm hwnnw, rwyf i o'r farn bod rheoleiddio wedi methu. Mae'r pwyntiau y mae Aelodau Plaid Cymru wedi eu gwneud yn y ddadl hon yn gwbl gywir: bu methiant i ddarparu newyddion cywir ar wahanol allfeydd darlledu; bu methiant i gyflwyno'r newyddion am y lle hwn ac am lywodraethu ein gwlad. Mae hynny'n fethiant o ran rheoleiddio ac mae'n fethiant gan Ofcom. Nid oes gan Ofcom yr adnoddau yng Nghymru i ddarparu'r mathau o reoleiddio y mae eu hangen arnom, ac mae gwneud dim mwy nag esgusodion, fel y mae'r Ceidwadwyr wedi ei wneud y prynhawn yma, yn gyfystyr â methu'r bobl y maen nhw'n ceisio eu cynrychioli. Nid yw'n ddigon da dweud, oherwydd bod gennym ni rywfaint o ragoriaeth ym maes gwneud rhaglenni, rhywfaint o ragoriaeth ym maes cynhyrchu, rhywfaint o ragoriaeth ym maes diwydiannau creadigol, nid oes angen rhagor o gefnogaeth arnom o gwbl felly, mae'r hyn sydd gennym yn ddigon a dylem fod yn falch ohono. Nid yw hynny'n ddigon da. Rwyf i eisiau mwy i fy ngwlad.
Mae angen atebolrwydd arnom am rai o'r materion hyn hefyd. Rwyf i wedi anghytuno, mae arnaf ofn, fel ag erioed, â bron pob un yn y Siambr ar rai o'r materion hyn. I mi, nid wyf i'n hoffi'r ffaith bod Gweinidogion yn gwneud penodiadau. Rwy'n cofio Gweinidog Ceidwadol yn mynegi'n glir iawn, iawn pan oeddwn i mewn Llywodraeth nad oedden nhw eisiau'r person gorau ar gyfer y swydd—[Torri ar draws.] Dim ond newydd ddod i mewn ydych chi, James, felly caewch eich ceg. Nid oedden nhw eisiau'r person gorau ar gyfer y swydd; roedden nhw eisiau'r ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer y swydd, ac ni ddylai hynny fod yn digwydd ym maes darlledu. Ac am y rheswm hwnnw, rwyf i'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol y dylai darlledu, fel pwnc, fod yn atebol i'r Senedd hon ac i seneddau eraill ac nid i Weinidogion ac nid i lywodraethau. Mae'n rhy bwysig i ganiatáu i lywodraethau unigol, pwy bynnag ydyn nhw, gymryd atebolrwydd am y materion hyn. Ond mae angen i ni gael llawer mwy o atebolrwydd a llawer mwy o weithredu i fynd i'r afael â'r wybodaeth gam a'r wybodaeth anghywir sy'n bodoli heddiw.
Ond mae angen i ni edrych i'r dyfodol hefyd. Nid yw fy mab 11 oed yn gwylio'r BBC, nid yw'n gwylio S4C, nid yw'n gwylio dim ohono; mae'n gwylio YouTube, mae'n gwylio Netflix. Dywedwch chi wrthyf i sut y bydd rheoleiddiwr economaidd yng Nghymru yn rheoleiddio Netflix. Gadewch i mi ddweud wrthych chi: nid yw'n mynd i ddigwydd. Ac os byddwch chi'n ennill y gorau ar Gymru yn y ffordd honno, bydd llai o reoleiddio ac nid mwy o reoleiddio; bydd llai o atebolrwydd ac nid mwy o atebolrwydd. A gadewch i mi ddweud hyn, hefyd: bydd Radio 2 yn dal i ddarlledu os yw'r materion hyn wedi eu datganoli. Bydd Boris Johnson, neu rywun a fydd, mae'n siŵr, yn ei ddisodli yn ystod y misoedd nesaf, yn dal i wneud sylwadau anghywir am beth sy'n digwydd ble a phwy sy'n llywodraethu pa ran o bolisi. Ac eto, ni fydd unrhyw fath o reoleiddio a fydd yn gallu dweud wrth y person hwnnw, deiliad y swydd honno, fod angen iddo fod yn atebol am yr hyn y mae'n ei ddweud. Oherwydd os nad oes gennym ni reoleiddiwr a rennir yn y DU sy'n gallu gwneud y gwaith, ni fyddwn yn gallu dweud y pethau hynny ac ni fyddwn yn gallu cael y lefel honno o reoleiddio.
Rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi ymuno â ni ar gyfer y ddadl hon, oherwydd nid wyf i'n credu bod y ddadl wirioneddol y mae angen i ni ei chael yma yn ymwneud â pha un a ydym yn datganoli darlledu ai peidio, ond yn hytrach, beth yw diben y Deyrnas Unedig a beth yw'r sefydliadau a rennir a'r gwerthoedd cyffredin sydd gennym i'n galluogi ni i gyd i weld a theimlo'n rhan o'n cymunedau cenedlaethol, lle bynnag yr ydym yn digwydd bod yn y Deyrnas Unedig. Siawns, os yw'r Deyrnas Unedig am gael rôl yn y dyfodol, mae'n rhaid iddi sicrhau y gall fy mhlentyn 11 oed dyfu i fyny gan weld ei hunaniaeth Saesneg yn cael ei diogelu, ei bortreadu ar y sgrin, a'i deall fel rhan o'n cymuned genedlaethol, a bod ei hunaniaeth Gymraeg yn cael union yr un parch a lle cyfartal. Os gallwn wneud hynny, bydd y dadleuon sydd wedi dominyddu'r ddadl hon yn rhy hir yn diflannu. Bydd gennym ni sefydliadau a rennir a gwerthoedd cyffredin a gweledigaeth gyffredin o'r dyfodol y gallwn ni i gyd, gyda'n gilydd, eu cyflawni. Diolch.