Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Mehefin 2022.
Llywydd, mae dros 12,000 o aelwydydd wedi elwa ar y £200 o daliadau cymorth tanwydd y gaeaf yn yr awdurdodau lleol a gwmpesir gan etholaeth yr Aelod. Ym mis Ebrill yn unig, gwnaed dros 2,200 o daliadau o'r gronfa cymorth dewisol yn yr un awdurdodau lleol hynny ac, o'r taliadau hynny, roedd mwy na 90 y cant yn gymorth arian parod ar gyfer bwyd a thanwydd brys.