Argyfwng Costau Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:07, 14 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch, Prif Weinidog, mae hynny'n gymorth enfawr i fy etholwyr i, ond a fyddech chi'n cytuno nad yw cynnig y Canghellor i aelwydydd sy'n wynebu'r argyfwng costau byw yn ddigon ac, yn wir, ei fod yn sarhaus, o gofio ei fod i gael ei dalu o'r toriad i gredyd cynhwysol y llynedd? Gellid bod wedi cynnig cymaint mwy i aelwydydd sydd o dan bwysau pe na bai'r Canghellor wedi colli £11 biliwn wrth fethu ag yswirio yn erbyn codiadau yn y gyfradd llog, neu drwy golli £6 biliwn mewn benthyciadau adfer twyllodrus. A pham, Prif Weinidog, ydych chi'n credu, na wnaiff Gweinidogion Llywodraeth y DU alw hwn yn 'argyfwng'?