1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2022.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion? OQ58180
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da i ddynion drwy amrywiaeth o strategaethau a rhaglenni iechyd cyhoeddus sy'n bodoli eisoes. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, ein strategaeth atal hunanladdiad a chamau gweithredu i hyrwyddo ymwybyddiaeth gynnar o ganser y brostad a chlefyd y galon.
Rwy'n gwerthfawrogi eich ymateb, Prif Weinidog. Diolch. Mae'n Wythnos Iechyd Dynion yr wythnos hon, sy'n cael ei nodi hyd at Sul y Tadau ddydd Sul. Y gobaith yw y bydd yn helpu dynion i feddwl yn fwy am eu hiechyd. Ac, mewn gwirionedd, rydym yn arbennig o wael am ofalu am ein hiechyd ein hunain, yn enwedig o ran iechyd meddwl. Prif Weinidog, thema'r Wythnos Ryngwladol Iechyd Dynion hon yw cynnal archwiliad iechyd ar eich hun. Mae adnoddau'n cael eu darparu ar-lein i gynnig arweiniad i ddynion o ran gofalu am eu hiechyd a chynnal archwiliad iechyd ar eu corff a'u meddwl. A wnewch chi helpu i ledaenu ymwybyddiaeth drwy gynnal archwiliad iechyd ar eich hun yr wythnos hon, ac a ydych yn cydnabod yr elfen ystadegol bod dynion yn llai tebygol o siarad am eu problemau iechyd corfforol a meddyliol? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac mae'n gyfle ar ei ben ei hun i wneud yn union yr hyn a ddywedodd, ac rwy'n diolch iddo am wneud y pwyntiau ychwanegol yna. Mae'n Wythnos Ryngwladol Iechyd Dynion yn wir. Dechreuodd ddoe a bydd yn parhau tan ddydd Sul yr wythnos hon, a'i diben, fel y dywedodd Gareth Davies, yw cynyddu ymwybyddiaeth o broblemau iechyd y gellir eu hatal ymhlith dynion o bob oed. Ac nid oes amheuaeth nad oes problem ddiwylliannol yma, lle mae dynion yng Nghymru yn llai tebygol o adrodd am arwyddion cynnar o symptomau, yn llai tebygol o fod yn barod i gynnal y math o hunan archwiliadau syml y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw. Ac, o ganlyniad, yn rhy aml rydym yn gweld pobl yn cyflwyno eu hunain yn rhy hwyr am driniaeth a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiol iddyn nhw. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr fod unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i berswadio pobl i wneud y pethau syml hynny a all eu helpu, yn gam pwysig tuag at sicrhau y gall dynion sydd ag anghenion iechyd gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw mewn ffordd mor amserol ag sy'n bosibl.