1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2022.
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni disgyblion ysgolion cynradd yn Islwyn gyda chost y diwrnod ysgol? OQ58190
Wel, Llywydd, yn ogystal â brecwast am ddim, cymorth ychwanegol drwy'r cynllun mynediad i grant datblygu disgyblion a chinio ysgol am ddim bellach, bydd rhieni yn Islwyn yn cael eu cefnogi drwy'r Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol, a fydd yn helpu gyda chostau offerynnau a hyfforddiant. Bydd y rhieni hynny'n gwybod faint o hyn sy'n deillio o ymgyrchu parhaus eu Haelod o'r Senedd.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Rwy'n falch, fodd bynnag, fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo'n briodol i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru. Mewn llythyr diweddar at Lywodraeth y DU gan undebau athrawon nodwyd y manteision a ddarperir gan brydau ysgol am ddim, a dywedodd:
'Bob diwrnod ysgol rydym yn gweld y manteision y mae prydau ysgol am ddim yn eu rhoi i'r rhai sydd â hawl ar hyn o bryd. I lawer, dyma'r unig bryd poeth, maethlon y maen nhw'n ei gael mewn diwrnod. Mae pryd ysgol o safon yn helpu i wella gallu plant i ganolbwyntio a'u hymddygiad yn ystod gwersi. Rydym yn gweld, yn uniongyrchol, yr effaith y gallan nhw ei chael ar wella presenoldeb yn yr ysgol, ar iechyd plant, a pherfformiad academaidd.'
Yn lleol, yn fy etholaeth i, mae cyngor Llafur Caerffili wedi ei ganmol yn briodol am y ffordd y gwnaeth ymateb drwy gydol y pandemig wrth iddo ddarparu prydau ysgol iach a digonol am ddim. Ond yn anffodus, mae'r argyfwng costau byw yn rhoi mwy a mwy o straen ar gyllidebau teuluoedd. Er bod ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn cymryd camau a fydd yn cefnogi teuluoedd mewn lleoedd fel Islwyn, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU, serch hynny, yn gwrthod ehangu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn Lloegr. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn oedran cynradd yng Nghymru, a sut arall y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhieni yn Islwyn gyda chostau ysgol drwy'r argyfwng costau byw hwn? Diolch.
Llywydd, rwy'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y £225 miliwn y byddwn, o ganlyniad i'r cytundeb cydweithredu, yn ei fuddsoddi mewn darparu prydau ysgol am ddim i bob myfyriwr oedran cynradd. Bydd y cyntaf o'r ysgolion hynny'n dechrau gweithredu hyn ym mis Medi eleni, ac yna mae llawer o waith yn mynd rhagddo gydag ysgolion eraill i sicrhau bod y rhwystrau rhag cyfranogi—ac maen nhw'n aml yn rhwystrau ffisegol: cyfleusterau cegin ffreutur, ac ati—ein bod yn gallu defnyddio'r cyfalaf yr ydym hefyd wedi ei roi o'r neilltu ar gyfer y rhaglen hon i'w helpu i ddechrau gweithredu hefyd. Pan fyddwn yn gallu sicrhau prydau ysgol am ddim i bawb yn ardal awdurdod lleol Caerffili, bydd 10,700 o ddisgyblion ychwanegol yn manteisio ar y datblygiad hwn. Ac rwy'n falch iawn o allu talu teyrnged i waith yr awdurdod lleol wrth sicrhau bod hynny yn digwydd cyn gynted ag y gallwn.
Byddwn ni yn parhau, serch hynny, fel y dywedodd yr Aelod dros Islwyn, Llywydd, i wneud pethau eraill a fydd yn helpu gyda chost y diwrnod ysgol. Yr arian ychwanegol a gyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Jeremy Miles yn gynharach yn y flwyddyn ar gyfer cronfa mynediad grant datblygu disgyblion eleni, y ffaith y byddwn yn darparu prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r haf, ac y byddwn yn parhau i ehangu'r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu o ran addysg y blynyddoedd cynnar a'r ddarpariaeth gofal plant, mae pob un ohonyn nhw yn gadael arian ym mhocedi'r teuluoedd hynny a fyddai fel arall yn gorfod ariannu'r gwasanaethau hynny eu hunain. Mae'r strategaeth honno, a ddilynwyd gan Lywodraethau olynol yma yn y Senedd—y cyflog cymdeithasol, fel y'i gelwir—yn golygu bod darpariaeth gyfunol yn cyrraedd bywydau'r bobl hynny y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw fwyaf, ac mae honno'n strategaeth y byddwn yn parhau i'w dilyn drwy weddill tymor y Senedd hon.