Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 14 Mehefin 2022.
Llywydd, mae ein hasesiadau yn dangos bod yr argyfwng yn cael effaith sylweddol ar bobl ledled Cymru, gan gynnwys Ogwr. Gallai hyd at 45 y cant o aelwydydd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd eisoes yn dilyn y cynnydd mewn prisiau ym mis Ebrill. Dywedodd Ofgem y gall deiliaid tai ddisgwyl i filiau tanwydd deuol nodweddiadol godi i £2,800 ym mis Hydref eleni.