1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mehefin 2022.
7. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw cynyddol ar bobl Ogwr? OQ58193
Llywydd, mae ein hasesiadau yn dangos bod yr argyfwng yn cael effaith sylweddol ar bobl ledled Cymru, gan gynnwys Ogwr. Gallai hyd at 45 y cant o aelwydydd yng Nghymru fod mewn tlodi tanwydd eisoes yn dilyn y cynnydd mewn prisiau ym mis Ebrill. Dywedodd Ofgem y gall deiliaid tai ddisgwyl i filiau tanwydd deuol nodweddiadol godi i £2,800 ym mis Hydref eleni.
Rwy'n credu bod ymateb y Prif Weinidog yn disgrifio'n dda y tswnami sy'n effeithio ar bobl ledled Cymru bellach, o Ogwr, y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin, ac mae yn digwydd yn wirioneddol, ac nid yw wedi ei guddio—rydym mewn gwirionedd yn ei weld bob dydd bellach. Ond mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud. Mae llawer o'r mesurau, sef mesurau Llywodraeth Cymru sydd wedi'u targedu'n dda, wedi'u crybwyll y prynhawn yma, ond hefyd ar lefel leol. Mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yma, gan dargedu'r taliadau tai yn ôl disgresiwn; gweinyddu taliadau tanwydd; y rhyddhad ardrethi busnes; cydlynu'r cynllun Bocs Bwyd Mawr yn Ogwr, a fydd yn cael ei gyflwyno; cymorth ar gyfer pantrïoedd cymunedol; rhewi'r dreth gyngor eleni ym Mhen-y-bont ar Ogwr; ac, ers yr wythnos diwethaf, talwyd dros 29,000 o daliadau costau byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr i'r rhai sy'n talu debydau uniongyrchol ym mandiau A, B, C a D, ac maen nhw'n symud ymlaen i eraill yn gyflym hefyd.
Prif Weinidog, a gaf i ofyn i chi? Ddydd Sadwrn yma, yn wyneb yr argyfwng hwn, bydd miloedd o bobl yn cyrraedd Llundain fel rhan o ymgyrch Cyngres yr Undebau Llafur i orfodi'r Llywodraeth i wneud mwy o ran tâl salwch, cyflogau, codi credyd cynhwysol, trethu elw ynni i helpu pobl i dalu eu biliau, a gwahardd yr arfer ofnadwy o ddiswyddo ac ailgyflogi, a mwy. Pa neges sydd gennych chi i bawb sy'n teithio o Gymru i Lundain ddydd Sadwrn yma, sy'n mynnu gwell gan Lywodraeth y DU ar gyfer pobl sy'n gweithio sy'n wynebu'r argyfwng costau byw hwn o eiddo'r Ceidwadwyr?
Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies. Roedden nhw yn bwyntiau pwysig a pherthnasol iawn i ni yma yng Nghymru. Cefais gyfle i siarad mewn rali yn Llandudno yng nghynhadledd TUC Cymru ym mis Mai, a gynlluniwyd yn gyfan gwbl i dynnu sylw at yr orymdaith a fydd yn digwydd ddydd Sadwrn yr wythnos hon. Diben yr orymdaith, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, yw tynnu sylw at yr heriau i fywydau cynifer o'n cyd-ddinasyddion, ond hefyd i ddatblygu syniadau adeiladol y dylai'r Llywodraeth hon yn San Steffan eu harchwilio ac y dylen nhw fod yn barod i'w rhoi ar waith i helpu'r teuluoedd hynny hefyd. Fy neges i'r niferoedd mawr hynny o bobl a fydd yn mynd o Gymru i Lundain ddydd Sadwrn yw bod eu parodrwydd i gymryd rhan mewn gwrthdystiad o'r fath yn arwydd o'u hymrwymiad i wneud pethau'n well ym mywydau eu cyd-ddinasyddion, a dymunaf bob llwyddiant i bob un ohonyn nhw wrth ddangos eu penderfyniad y gellir dod o hyd i gyfres well o atebion a'u rhoi ar waith ym mywydau'r rhai sydd eu hangen fwyaf.