Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 14 Mehefin 2022.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae maint yr argyfwng sy'n wynebu llawer gormod o aelwydydd yng Nghymru yn wirioneddol arswydus. Mae chwyddiant, fel clywsom ni, ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac mae prisiau ynni yn codi 23 gwaith yn gynt na chyflogau. O ystyried yr argyfwng sy'n wynebu'r aelwydydd hyn, mae Plaid Cymru yn cytuno y dylai Llywodraeth y DU adfer y cynnydd o £20 i gredyd cynhwysol o fis Gorffennaf ymlaen i amddiffyn aelwydydd sy'n agored i niwed rhag yr argyfwng costau byw, ac rydym ni o'r farn y dylid ymestyn y cynnydd hwnnw hefyd i'r rhai sy'n cael budd-daliadau etifeddol, ac y dylid uwchraddio'r budd-daliadau i gyd yn unol â chwyddiant ac atal didyniadau awtomatig.
Mae'r Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant wedi amcangyfrif bod tua 92,000 o aelwydydd sy'n hawlio credyd cynhwysol yng Nghymru yn cael £60 yn llai ar gyfartaledd bob mis nag y mae ganddyn nhw'r hawl iddo oherwydd didyniadau awtomatig o'u taliad credyd cynhwysol nhw. Mae'r didyniadau hyn yn effeithio ar tua 106,000 o blant yng Nghymru. Cymru sydd â'r gyfradd tlodi uchaf ymhlith pedair gwlad y DU, gyda bron i un o bob pedwar o bobl yn byw mewn tlodi, ac felly, os nad yw San Steffan yn fodlon arddangos y mymryn lleiaf o barch tuag at bobl a mynd i'r afael â maint yr argyfwng hwn mewn ffordd ddigonol, a ydych chi, Gweinidog, yn cytuno â mi na ellir dadlau yn erbyn galw am bwerau dros les er mwyn i ni allu cefnogi ac amddiffyn pobl Cymru yn well, y bobl hynny sydd angen y cymorth mwyaf, cymorth y gellir ei anelu orau drwy'r system fudd-daliadau?
Fe wyddom ni, fel rydych chi wedi dweud, y bydd y darlun yn gwaethygu eto hyd yn oed ac y bydd nifer y rhai sy'n byw mewn tlodi tanwydd neu sydd mewn perygl o fynd i dlodi tanwydd yn codi eto yn yr hydref. A fyddai'r Gweinidog yn egluro pryd y bydd y taliad cynllun cymorth tanwydd gaeaf nesaf yn cael ei roi? A fydd hwnnw'n cael ei roi, fel nododd hi o'r blaen, cyn mis Hydref?
Mae'r mesur a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, sef y cynllun talebau tanwydd i helpu aelwydydd â mesuryddion rhagdalu sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni nhw, ac yn aml, fel roeddech chi'n dweud, y nhw yw'r aelwydydd tlotaf, i'w groesawu yn fawr. Fe hoffwn i ofyn—. Roedd y Prif Weinidog yn sôn am hynny'n gynharach. Fe dynnodd ef sylw at y ffaith, ac rydych chithau wedi gwneud hynny, fod gofynion bod taliadau sefydlog a dyledion yn cael eu talu cyn i'r cyflenwad ddechrau—a allai hynny effeithio ar effeithiolrwydd y mesur hwn? Byddai hynny'n golygu na fyddai ychwanegu taleb tanwydd gwerth £30 at gyfrif rhagdalu yn ddigon mewn rhai achosion i alluogi'r cwsmer i droi'r goleuadau hynny ymlaen, i ddefnyddio'r oergell a'r popty, i wresogi'r cartref. Felly, sut fydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau y bydd pobl yn cael digon o fodd ariannol i osgoi'r sefyllfa hon? A hefyd sut ydym ni'n gwybod a ydym ni'n helpu'r rhai sydd ag angen cymorth? Fe wyddom ni nad yw'r defnydd o fesurau eraill i fynd i'r afael â thlodi tanwydd wedi bod yn ddelfrydol bob amser, ac felly ai cyfeirio at y cynllun hwn yw'r dull mwyaf effeithiol o wneud hynny? Beth sy'n digwydd i'r rhai nad oes ganddyn nhw gysylltiad â sefydliadau neu heb fod yn ymwybodol o'r cynllun?
Wrth i gostau godi, un o'r costau mwyaf sydd gan deuluoedd ar incwm isel yw dodrefn ac offer arall. Mae cost dodrefn yn parhau i godi ac mae cost dodrefn, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi codi 32 y cant, tra bod offer i'r cartref wedi codi 17 y cant. Mae Brexit a chwyddiant yn gyrru'r prisiau hyn yn uwch eto, hyd yn oed. Nid oes gan o leiaf 10,000 o blant yn y DU eu gwely nhw eu hunain i gysgu ynddo, ac mae 4.8 miliwn yn byw heb o leiaf un teclyn cartref hanfodol, fel popty neu oergell, ac mae'r rhain yn ffigurau o'r amser cyn y pandemig, yr ydym ni'n gwybod eu bod nhw wedi codi llawer mwy erbyn hyn.
Dim ond 2 y cant o dai cymdeithasol yn y DU sy'n cael eu gosod yn rhai â chelfi neu â rhywfaint o gelfi, o gymharu hynny â 29 y cant yn y sector rhentu preifat, ac mae rhywfaint o'r ymchwil a wnes i yng Nghymru yn dangos bod hynny'n wir am lawer o gymdeithasau tai yma hefyd. Mae tenantiaethau â chelfi o fudd enfawr i denantiaid a landlordiaid, ac maen nhw'n gallu ysgafnu'r pwysau ar gronfeydd cymorth argyfwng fel y gronfa cymorth dewisol. Fe all byw heb ddodrefn hanfodol gael effaith enfawr ar lesiant meddyliol a chorfforol pobl a chreu cost ychwanegol. Er enghraifft, mae hyd at 15 y cant o wres eich cartref chi'n cael ei golli os nad oes deunydd llawr gennych, ac mae hi'n anodd iawn cael hwnnw pan fyddwch chi ar incwm isel. Mae elusennau sy'n darparu moddion ariannol ar gyfer eitemau fel hyn, ond nid oes llawer o ddarpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer eitemau fel deunydd llawr, ac mae llawer o landlordiaid cymdeithasol yn cael gwared ar ddeunydd llawr, ac mewn rhai achosion bu achosion pan godwyd tâl ar denantiaid am godi lloriau ar derfyn eu tenantiaeth nhw. Felly, tybed, Gweinidog, a fyddech chi'n ystyried gweithio ochr yn ochr â darparwyr tai cymdeithasol i annog ymgysylltu â thenantiaid ynghylch cadw hen ddeunydd lloriau a dodrefn pan fo hynny'n berthnasol. A ellid ychwanegu hyn at delerau atodol contractau nesaf Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)? Ac a wnaiff Llywodraeth Cymru adolygu telerau'r gronfa cymorth dewisol a chronfeydd argyfwng eraill i gynnwys darparu deunydd lloriau addas? Diolch.