Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 14 Mehefin 2022.
Mae'r 26 o gamau gweithredu wedi'u seilio ar dair egwyddor graidd: ni ddylai fod unrhyw oddefgarwch o stigma sy'n gysylltiedig â HIV; bydd yr holl gynlluniau ar gyfer gweithredu mentrau a gwasanaethau newydd yn cael eu llywio gan bobl sy'n byw gyda HIV, neu byddan nhw'n cael eu datblygu gyda nhw. Ochr yn ochr â hyn, bydd cydnabyddiaeth o wahaniaethau mewn cyd-destun o ran rhywioldeb, ethnigrwydd, oedran, rhyw a lleoliad. Bydd pob menter a gwasanaeth newydd yn cael eu monitro a'i werthuso'n gyson i sicrhau eu bod nhw'n bodloni'r camau gweithredu a'r egwyddorion sy'n cael eu nodi yn y cynllun. Roedd y grŵp yn glir na ddylid gadael neb ar ôl, dylid annog a dathlu cynwysoldeb ac amrywiaeth, ac y dylai pob cymuned rŷn ni'n eu gwasanaethau fod yn rhan annatod o'r deialog, y drafodaeth a'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud am HIV wrth inni symud ymlaen.
Mae'r 26 o gamau gweithredu yn canolbwyntio ar bum maes allweddol: atal, profi, gofal clinigol, byw'n dda gyda HIV a thaclo stigma sy'n gysylltiedig â HIV. Ar ben hyn, mae pum cam gweithredu cyffredinol wedi bod yn allweddol. Yn gyntaf, sefydlu Cymru fel Cenedl Llwybr Carlam. Adeiladu ar lwyddiant mawr Fast Track Caerdydd a'r Fro, sef y cynllun cydweithredol llwybr carlam cyntaf yng Nghymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran cynnwys cyrff cyhoeddus lleol, cynyddu cydweithio, a chreu mentrau newydd, gan gynnwys cymorth meddygon teulu ar gyfer profion HIV a rhwydwaith eirioli. Mae'r ddau hyn wedi denu cyllid anstatudol. Nod y cynllun yw gwneud Cymru'n Genedl Llwybr Carlam, gyda rhwydweithiau ledled Cymru a fyddai'n cydweithredu i helpu i gyflawni uchelgais Cymru i beidio â chael unrhyw achosion newydd o HIV erbyn 2030.
Yn ail, cydnabod pwysigrwydd grwpiau gwirfoddol a chymunedol, a rhoi mwy o gyfle iddyn nhw i gyfrannu. Mae'r cynllun gweithredu hwn wedi'i ddatblygu gyda phartneriaid fel Pride Cymru ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, y mae eu gwaith yma yng Nghymru yn adeiladu ar waith blaenorol llinell gymorth AIDS Caerdydd a Body Positive Caerdydd. Yn ogystal â'u gwaith nhw, mae gwaith grwpiau HIV y trydydd sector fel PrEPster, yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol, Positively UK a CHIVA, y gymdeithas HIV plant, i gyd wedi bod yn hanfodol bwysig yn y frwydr yn erbyn HIV yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bydd pob un o'r sefydliadau hyn yn parhau i fod yn allweddol yn y frwydr yn erbyn HIV yn y blynyddoedd i ddod.
Yn drydydd, ariannu a datblygu system rheoli achosion iechyd rhywiol i Gymru gyfan. Bydd y system hon yn drawsnewidiol yn y ffordd y bydd data a gwybodaeth am iechyd rhywiol yn cael eu casglu a'r ffordd y bydd tueddiadau'n cael eu monitro. Yn bedwerydd, bydd gofyn i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau adrodd yn flynyddol i Lywodraeth Cymru ar sut mae'r camau gweithredu yn y cynllun gweithredu HIV yn cael eu cymryd ac yn gwneud gwahaniaeth. Ac yn olaf, sefydlu grŵp goruchwylio cynllun gweithredu, a fydd yn monitro'r effaith y mae cyflawni'r cynllun gweithredu wedi'i chael.
Dwi'n hynod o ddiolchgar i'r partneriaid a'r rhanddeiliaid hynny sydd wedi creu'r cynllun hwn ar y cyd. Bydd cyfnod ymgynghori yn cael ei gynnal nawr am 12 wythnos. Dwi'n annog cymaint o bobl â phosibl i gyfrannu at y broses hon drwy ymateb a rhoi sylwadau ar y camau gweithredu sy'n cael eu cynnig. Dwi'n credu'n gryf y gallwn ni, drwy dderbyn a gweithredu'r camau hyn, wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl sy'n byw gyda HIV a gwneud gwahaniaeth o ran diogelu cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol rhag y feirws. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen yr ymatebion i'r ymgynghoriad a dod â'r cynllun terfynol yn ôl i'r Senedd yn ddiweddarach eleni. Diolch yn fawr.