Strategaeth Arloesi Llywodraeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 1:33, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Weinidog. Mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid eu heconomi, gan ddweud eu bod yn dymuno cael eu cydnabod fel cenedl o entrepreneuriaid ac arloeswyr sydd wedi manteisio ar y cyfleoedd sy'n codi o dechnolegau newydd, wedi cynyddu cynhyrchiant yn sylweddol, a chanolbwyntio eu hadnoddau ar gyfleoedd a fydd yn trawsnewid eu heconomi. Yn benodol, pa ddatblygiadau arloesol a welwch i Gymru, ac a oes gennych uchelgais i wneud yr un peth neu ragori ar yr hyn a welwn mewn mannau eraill?