Mercher, 15 Mehefin 2022
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy...
Eitem 1 yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Sioned Williams.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth arloesi Llywodraeth Cymru? OQ58177
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut y bydd Cymru'n cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan Pêl-droed y Byd yn effeithio ar economi Cymru? OQ58166
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
3. A wnaiff y Gweinidog esbonio sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mesur llwyddiant Cwmni Egino? OQ58178
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Blaenau'r Cymoedd? OQ58182
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? OQ58185
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ofod Genedlaethol Llywodraeth Cymru? OQ58163
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau yn sir Benfro dros y 12 mis nesaf? OQ58161
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda rhanddeiliaid ynghylch economi'r nos yng Ngorllewin De Cymru? OQ58169
Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro? OQ58162
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y prinder gweithwyr cymorth gofal yng Nghymru? OQ58157
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Gareth Davies.
3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol yn ne-ddwyrain Cymru? OQ58184
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r ddarpariaeth o ddeintyddion yng nghanolbarth Cymru? OQ58168
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru yn cael eu darparu? OQ58159
6. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am yr hyfforddiant meddygol sydd ar gael yn ysgol feddygol gogledd Cymru? OQ58186
7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles meddyliol ar draws Dyffryn Clwyd? OQ58179
8. Pryd y bydd bwrdd y rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn dechrau gweithio ar gynllun gweithredu? OQ58171
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau amserol, ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ac i'w ofyn gan Carolyn Thomas.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn? TQ637
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithredwyr rheilffyrdd ynghylch y posibilrwydd o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd oherwydd cyngherddau Stereophonics a Tom Jones yng...
Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Darren Millar.
Eitem 5 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y...
Eitem 6 sydd nesaf, dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf'. Galwaf ar...
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar.
Rŷn ni'n symud ymlaen, felly, at y ddadl fer.
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi entrepreneuriaeth yng Nghymru?
Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sydd angen llawdriniaeth feddygol frys yn ei dderbyn mewn amser rhesymol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod menywod yn cael mynediad cyfartal at ddiagnosis a chymorth ar gyfer cyflyrau niwroamrywiol?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia