Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Mehefin 2022.
Mae llwyddiant Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd—llwyddiant tîm y dynion i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd—wedi rhoi hwb aruthrol i’r wlad gyfan. Ac rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a rhanddeiliaid eraill i ystyried sut i wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y ffaith y bydd Cymru'n cymryd rhan yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i’r tîm yn y rowndiau terfynol, ar y cae ac oddi arno.