Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch. Yn y pen draw, bydd llwyddiant hirdymor Cwmni Egino yn dibynnu ar wireddu prosiectau allweddol ar safle Trawsfynydd sy'n sicrhau manteision lleol. Bydd y rhain yn cael eu hasesu drwy fframwaith buddion cymunedol a fydd yn cael ei ddatblygu dros y 12 mis nesaf mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol o dan siarter gwerth cymdeithasol y cwmni. Mae hyn oll, wrth gwrs, yn dibynnu ar fuddsoddiad Llywodraeth y DU mewn dyfodol niwclear yn Nhrawsfynydd.