1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 15 Mehefin 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl, daeth rhan o dde Cymru i stop, wrth i nifer o ddigwyddiadau mawr gael eu cynnal yng nghanol dinas Caerdydd. Nawr, roedd un adroddiad yn honni bod ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4 o bont Hafren i mewn i Gymru, a bu llawer o bobl yn lleisio eu rhwystredigaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu a bod llawer mwy o gynllunio strategol yn digwydd i gydgysylltu digwyddiadau mawr yng Nghymru er mwyn sicrhau bod gennym seilwaith i ddarparu ar gyfer niferoedd mawr o ymwelwyr. Mae angen inni sicrhau hefyd y manteisir ar bob cyfle i hybu gwariant gan ymwelwyr nid yn unig yn ein dinasoedd, ond mewn mannau eraill ledled Cymru hefyd. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym pa wersi a ddysgwyd, Weinidog, a pha fesurau newydd a gyflwynir i sicrhau bod Cymru yn fwy parod ar gyfer digwyddiadau mawr yn y dyfodol?
Credaf fod yr Aelod yn iawn i nodi bod effaith digwyddiadau mawr a’u gwariant nid yn unig ar y digwyddiadau eu hunain, ond o’u cwmpas hefyd, yn rhywbeth yr ydym eisoes yn canolbwyntio arno yn ein strategaeth digwyddiadau ac ymwelwyr rhyngwladol, yn ogystal â'r hyn y bwriadwn ei wneud yn fwy cyffredinol ac mewn mannau eraill—felly, nid yn unig yng Nghaerdydd ac Abertawe, ond ledled Cymru hefyd. Ac rwy’n cydnabod y pwynt a wnaed am yr heriau i bobl sy’n teithio i Gymru hefyd, ac nid wyf am fod yn anystyriol o hynny. Felly, bydd cyfle i ddysgu gwersi o hynny gydag ystod o bartneriaid o fewn a thu allan i Lywodraeth Cymru. Byddai’n rhy gynnar imi ddweud, 'Dyma’r gwersi a’r camau penodol sy’n cael eu cymryd’, gan fod gennym amrywiaeth o bethau i edrych arnynt. Felly, y penwythnos hwn, mae'r Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd hefyd, mae gennym yr arena a agorwyd yn ddiweddar yn Abertawe, mae gennym uchelgeisiau yn ein strategaeth ymwelwyr ar gyfer digwyddiadau mewn mannau eraill hefyd. Felly, mae hon yn broses o ddysgu gyda phob digwyddiad, yn ogystal â'r heriau mwy strategol o sicrhau ein bod yn dod â phobl i Gymru a'u bod yn cael profiad gwych pan fyddant yma a'u bod yn awyddus i ddychwelyd hefyd.
Wel, oes, mae angen dysgu gwersi, Weinidog, ac mae angen eu dysgu yn gyflym iawn. Nawr, mae sawl digwyddiad mawr ar y gweill, gan gynnwys y digwyddiad WWE mawr ym mis Medi, y digwyddiad cyntaf o'i fath yn y DU ers 30 mlynedd, a fydd yn sicr yn denu ymwelwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Deallaf fod y digwyddiad hwn wedi cael cyllid gennych chi fel Llywodraeth Cymru. Nawr, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn digwyddiadau mawr, gan y gallant arddangos ein hunaniaeth ddiwylliannol a’n treftadaeth ar lwyfan rhyngwladol. Fodd bynnag, mae'n bwysig gwneud yr archwiliadau priodol a bod y seilwaith yn ddigonol i ymdopi â'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â'r ardal. Felly, Weinidog, pa ddangosyddion perfformiad allweddol a ddefnyddir i fonitro effeithiolrwydd unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn digwyddiadau mawr, ac a allwch ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y seilwaith hwnnw yn ei le i gefnogi digwyddiadau mawr yn y dyfodol?
Mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil y digwyddiad WWE. P'un a oeddech yn cefnogi'r byd adloniant chwaraeon yn blentyn neu wedi parhau i gefnogi—. Rwy'n credu y byddent yn cydnabod nad yw’n gamp wirioneddol yn y ffordd y byddem yn ei chydnabod, ond mewn gwirionedd, mae’n ddigwyddiad ac yn gyfle economaidd enfawr i Gymru oherwydd y cyrhaeddiad sylweddol sydd ganddo ym marchnad yr Unol Daleithiau, a marchnad UDA yw un o farchnadoedd rhyngwladol blaenoriaethol Croeso Cymru. Dyma lle mae gennym gryn dipyn o waith yn mynd rhagddo, ac fe nodais, mewn gwirionedd, fod cael UDA yn ein grŵp yng nghwpan y byd yn gadarnhaol iawn i ni, beth bynnag. Dyna un o'r rhesymau pam y penderfynais gefnogi'r digwyddiad yn ariannol er mwyn sicrhau ei fod yn dod i Gymru. Ac rydym yn edrych nid yn unig ar yr hyn sydd wedi digwydd yn ddiweddar ond ar sut i sicrhau bod y digwyddiad hwnnw mor llwyddiannus â phosibl i'r holl ymwelwyr, yn ogystal â'r bobl sy'n perfformio—rydym am i'r bobl hynny ddod yn ôl dro ar ôl tro. A dweud y gwir, rhan o'r pwynt am y digwyddiad hwnnw oedd nad digwyddiad i Gaerdydd yn unig ydoedd. Buom yn edrych ar ddigwyddiadau eraill a rhannau eraill o’r ffordd y bydd y digwyddiad yn cael ei hyrwyddo, a fydd yn canolbwyntio ar rannau eraill o Gymru, ac mae rhai o’r digwyddiadau ail haen sy’n cael eu cynnal o’i amgylch hefyd yn cael eu cynnal mewn rhannau eraill o’r wlad. Felly, rydym yn meddwl o ddifrif ynglŷn â sut y mae pob digwyddiad yn cael effaith ehangach, ac yna, byddwn yn cynnal asesiad ar ôl y digwyddiad i geisio deall y manteision economaidd uniongyrchol hefyd. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei drafod yn uniongyrchol gyda digwyddiadau a gefnogir gennym yn ogystal, felly rwy'n falch o roi'r sicrwydd hwnnw i'r Aelod hefyd.
Wel, wrth gwrs, rwy'n croesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn digwyddiadau mawr, ond mae’n amlwg i mi fod angen strategaeth digwyddiadau mawr gadarn sy’n edrych tua’r dyfodol ar Lywodraeth Cymru. Mae dros ddwy flynedd ers i’r strategaeth ddiwethaf ddod i ben, ac er fy mod yn derbyn y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi strategaeth newydd fis nesaf, mae’n dal yn siomedig ein bod wedi gorfod aros cyhyd. Nawr, wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol fod gan y strategaeth newydd yr adnoddau sydd eu hangen arni i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i Gymru. Mae'n rhaid iddi sicrhau, lle y gall wneud hynny, fod cyfleoedd wedi eu gwasgaru'n deg ledled y wlad, fel y dywedoch chi yn awr, ac mae'n rhaid iddi ddod â’r digwyddiadau a'r diwydiannau twristiaeth ynghyd i gynyddu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi ar gyfer ein busnesau, datblygu ein sylfaen sgiliau a chreu swyddi ar gyfer y dyfodol. Oherwydd, fel y dywedoch wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn gynharach heddiw, creu swyddi a swyddi gwell yw eich blaenoriaeth. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd pob rhan o Gymru yn elwa o'r strategaeth digwyddiadau mawr newydd? A chyn cyhoeddi'r strategaeth, a wnewch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dod â phartneriaid yn y sector digwyddiadau a'r sector twristiaeth ynghyd i gydgysylltu ac i fanteisio i'r eithaf ar y budd sy'n deillio o ddigwyddiadau mawr yng Nghymru?
Rwy’n fwy na pharod i roi sicrwydd i’r Aelod y bydd y strategaeth newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, yn canolbwyntio eto ar y modd y cynhyrchwn fuddion economaidd yn sgil fy mlaenoriaethau ar gyfer mwy o swyddi a swyddi gwell ledled Cymru, ac mae'r economi ymwelwyr a chyfleoedd cyflogaeth sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau yn rhan o hynny hefyd. Bydd hefyd yn nodi'n glir iawn ei bod yn strategaeth ar gyfer Cymru gyfan yn hytrach na'i bod yn canolbwyntio ar un rhan o’r wlad yn unig. Ond fel rydym newydd ei drafod, mae’r digwyddiadau sydd eisoes yn cael eu cynnal a’r dewisiadau rydym wedi’u gwneud—. Buom yn siarad am y digwyddiad WWE. Mae hyn yn ymwneud â chyflawni yn ogystal â strategaeth. Nid y ffaith nad oedd gennym strategaeth yw'r hyn sydd wedi ein hatal rhag gwneud cynnydd. Edrychaf ymlaen at gyflwyno sioe fawr yn yr hydref a mwy o ddigwyddiadau ar gyfer y dyfodol.
Llefarydd Plaid Cymru, Luke Fletcher.
Diolch, Lywydd. Nid oes amheuaeth fod bywyd gweithwyr a'u teuluoedd yn mynd yn anoddach. Mae chwyddiant ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd, mae prisiau ynni'n codi 23 gwaith yn gyflymach na chyflogau, ac mae enillion wythnosol Cymru yn parhau i fod yr isaf o gymharu â gwledydd eraill y DU. Ni allai pwysigrwydd undebau llafur fod yn fwy amlwg yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Fodd bynnag, dim ond un o bob chwe gweithiwr yn y sector preifat yng Nghymru sy'n aelodau o undebau. Mewn gwirionedd, mae oddeutu hanner gweithwyr Cymru mewn gweithleoedd lle nad oes unrhyw undeb llafur o gwbl, a dim ond 9 y cant o bobl ifanc Cymru sydd mewn undeb. A wnaiff y Gweinidog amlinellu, os gwelwch yn dda, beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog aelodaeth o undebau a chefnogi hawliau gweithwyr, ac a fyddent yn ymrwymo i wneud mwy i sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu yn eu swyddi yn ystod yr argyfwng hwn?
Tybed a wnaiff ymateb hefyd i sylwadau gan swyddogion polisi yng Nghyngres yr Undebau Llafur a ddywedodd mewn erthygl yn y Sefydliad Materion Cymreig y bu
'amharodrwydd amlwg i roi cefnogaeth gyhoeddus ystyrlon ac ymroddedig i undebau.' gan Lywodraeth Cymru
'pan fyddai gwneud hynny'n creu risg o beri anesmwythyd i unrhyw gyflogwyr yng Nghymru’?
Nid wyf yn cydnabod hynny o gwbl, ac rwy’n siarad fel rhywun sydd nid yn unig yn aelod o undebau llafur, ond rhywun a fu'n stiward llawr gwaith yn y gweithle, yn cynrychioli fy nghydweithwyr, rhywun sydd wedi bod yn gyfreithiwr undeb llafur, yn cynrychioli gweithwyr ym mhob rhan o’n heconomi, ac yn falch o wneud hynny, ac yn gyn-lywydd TUC Cymru. Fe welwch aelodau balch o undebau llafur ar bob un o’r meinciau hyn, ac mae’n llywio’r ffordd yr ydym yn gwneud dewisiadau hefyd.
Felly, mae’r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus, y gwyddoch i'r Dirprwy Weinidog ei gyflwyno yn ddiweddar, yn nodi sut y byddwn yn ffurfioli cysylltiadau. Nid yn unig y bydd yn dibynnu ar gysylltiadau personol rhwng pobl, fe fydd hefyd yn nodi'n glir mai partneriaeth gymdeithasol yw’r ffordd y byddwn yn parhau i gyflawni busnes. Mae’n llywio’r ffordd yr edrychwn ar y contract economaidd a’i ddatblygiad; dyna ein disgwyliad ar gyfer busnesau. Rydym am i Gymru fod yn wlad o waith teg. Mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cynrychiolwyr yn y gweithle, ac rwy’n parhau i gredu mai’r math gorau o gynrychiolydd yn y gweithle yw undeb llafur sydd ar eich ochr chi ac sy’n deall eich buddiannau chi fel gweithiwr a sut y mae hynny'n effeithio ar ddyfodol y busnes hefyd. Oherwydd mae ein hundebau llafur yn nodi'n glir iawn eu bod am gael swyddi da yng Nghymru ar gyfer eu haelodau. Byddai'n llawer gwell ganddynt dreulio eu hamser yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïau, yn hytrach na gorfod ymdrin â heriau cyflogwyr gwael.
Mae’r newid i siâp ein heconomi, serch hynny, wedi effeithio ar aelodaeth o undebau llafur. Mae trefnu mewn sectorau newydd o'r economi yn llawer mwy heriol nag mewn gwasanaethau cyhoeddus mawr neu gyflogwyr mawr yn y sector preifat. Rydym yn edrych, serch hynny, ar sut y gallwn barhau i ddadlau'r achos mewn ystod o sectorau, ac enghraifft dda o hynny yw manwerthu, lle mae’r strategaeth fanwerthu y byddwn yn ei lansio, y weledigaeth ar gyfer dyfodol manwerthu, yn un sydd wedi’i chydgynhyrchu gan y Llywodraeth, busnesau ac undebau llafur, gan edrych ymlaen at ddyfodol y sector hwnnw a’r hyn y bydd yn ei olygu i bobl sy’n gweithio.
Credaf ei bod yn bwysig inni gofio ar draws y Siambr fod undebau llafur bob amser wedi chwarae rhan bwysig wrth newid amodau’r gweithle ac arferion o fewn y gweithle. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddant yn chwarae rhan hanfodol yn y broses o newid i wythnos waith pedwar diwrnod hefyd. Mae cwmnïau yn y DU wedi dechrau treial mwyaf y byd ar wythnos bedwar diwrnod heb golli unrhyw gyflog. Bydd y treial yn para chwe mis ac yn cynnwys dros 3,000 o weithwyr a 70 o gwmnïau. Ymddengys bod y sector preifat ar y blaen i’r Llywodraeth yn hyn o beth. Canfu adroddiad gan safle swyddi CV-Library fod hysbysebion ar gyfer swyddi ag wythnos waith pedwar diwrnod wedi cynyddu oddeutu 90 y cant, gyda’r cynnydd mwyaf yn ne-orllewin Cymru a Llundain. Mae'r gefnogaeth yno. Yng Nghymru, mae arolygon barn yn awgrymu bod 57 y cant o gyhoedd Cymru yn cefnogi cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod, ac yn ddelfrydol, byddai 62 y cant o gyhoedd Cymru yn dewis gweithio wythnos waith pedwar diwrnod neu lai.
Fis Medi diwethaf, arweiniodd Plaid Cymru ddadl ar wythnos waith fyrrach, a oedd yn galw am gynnal cynllun peilot yng Nghymru i archwilio’r manteision y gallai eu cynnig. Cefnogwyd llawer o’r cynnig gan Lafur, ond nid yr alwad am gynllun peilot domestig. Gan fod cynllun peilot mwyaf y byd ar wythnos waith pedwar diwrnod wedi dechrau yn y DU, os bydd y treial yn fuddiol, a fyddai Llywodraeth Cymru wedyn yn ailystyried cynnal cynllun peilot ar wythnos waith pedwar diwrnod yma yng Nghymru, gyda’r nod o sefydlu polisi wythnos waith fyrrach yn y pen draw?
Credaf y byddwn yn awyddus i edrych ar y modelau hyblygrwydd sy'n bodoli a sut y gallant fod o fudd i weithwyr a busnesau. A dweud y gwir, yn ystod yr amgylchiadau gorfodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a mwy, canfuom fod gweithio hyblyg wedi gweddu i lawer o weithwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mae hynny wedi gwneud—. Rhai o’r pryderon blaenorol ynghylch gweithio hyblyg oedd na fyddai pobl o ddifrif yn ei gylch, ac mewn gwirionedd, gwelsom enillion gwirioneddol o ran cynhyrchiant mewn amrywiaeth o sectorau, yn ogystal â gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Felly, mae'r pwynt ehangach am weithio hyblyg yn un yr ydym yn obeithiol yn ei gylch, ac mae'n llywio'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymddwyn fel cyflogwr, a bydd yn sicr yn effeithio ar y ffordd y mae llawer o'n partneriaid yn y sector cyhoeddus yn edrych ar sut i gyflawni gwasanaethau cyhoeddus effeithiol na fydd bob amser yn ei gwneud yn ofynnol i bobl fod mewn un lleoliad ffisegol am bum diwrnod yr wythnos. Mae gennym gryn ddiddordeb yn y cynllun peilot ar wythnos waith pedwar diwrnod, ac mae'r Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy hefyd wrth gwrs, yn ogystal â Luke Fletcher, wedi cefnogi newidiadau i batrwm yr wythnos waith yn gyson hefyd. Felly, rydym yn awyddus i ddeall beth fydd yn digwydd pan fydd y cynllun peilot wedi'i gynnal, beth y mae hynny'n ei olygu wedyn i Gymru, a sut y gellir rhoi hynny ar waith wedyn.
Ond cyfrifoldeb cyflogwyr yw rhoi llawer o hyn ar waith wrth gwrs. Fe sonioch yn gynharach am rôl undebau llafur; byddai llawer o undebau llafur yn awyddus i weld rhywbeth fel hyn yn digwydd gan fod diddordeb a galw gwirioneddol gan eu haelodau. Fodd bynnag, ni fydd yn bosibl i rai cyflogwyr wneud hyn. Yn union fel yn y pandemig, roedd yn rhaid i rai pobl fod yn bresennol yn y gweithle, a bydd patrwm a maint rhai busnesau'n golygu na all rhai pobl gael wythnos waith pedwar diwrnod. Nid yw hynny'n golygu, fodd bynnag, y byddwn yn rhoi'r gorau i'w ystyried yn y meysydd hynny lle y gallai fod o fudd gwirioneddol i weithwyr, ac fel y gwelsom, budd i fusnesau, gyda gwelliannau mewn cynhyrchiant ac ymrwymiad pobl i'w gwaith, ac yn wir, y cydbwysedd gyda bywyd y tu allan i'r gwaith.