Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Mehefin 2022.
Gwnaf. Ers i mi lansio 'Cymru: gwlad ofod gynaliadwy' ym mis Chwefror eleni, mae Gofod Cymru wedi bod yn datblygu fel sefydliad, dan oruchwyliaeth ein corff partner, Awyrofod Cymru. Mae gweithgorau wedi'u sefydlu i fanteisio ar gyfleoedd penodol, gan gynnwys y cyflymydd gofod cynaliadwy a chymhwyso gweithgynhyrchu uwch i'r sector gofod.