Economi'r Nos yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:15, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr lletygarwch, twristiaeth, digwyddiadau ac economi'r nos drwy'r fforwm economi ymwelwyr. Sefydlwyd y fforwm i drafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r sector. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â hwy yr wythnos nesaf.