Economi'r Nos yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:17, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu bod y cliw yn y geiriau 'troseddau busnes'. Nid yw troseddu a'r system cyfiawnder troseddol wedi'u datganoli i'r lle hwn, neu ddim eto, o leiaf. Felly, bydd angen inni ymgysylltu ag asiantaethau'r DU. Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda heddluoedd, oherwydd mae heddluoedd yn cydnabod bod angen iddynt ymgysylltu'n rhagweithiol ag asiantaethau datganoledig a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â nifer o'u cyfrifoldebau. Mae gennym berthynas waith dda gyda heddluoedd Cymru. Os bydd ffocws polisi ychwanegol ar hyn, bydd angen ymgysylltu â Gweinidogion y DU sydd â chyfrifoldeb yn y maes hwn, ond byddwn ni eisiau gweld busnesau'n llwyddo ac yn mynd i'r afael â materion a allai effeithio arnynt, boed wedi eu datganoli neu wedi'u cadw'n ôl. Dylwn ddweud fy mod yn credu, o fewn economi'r nos yn Abertawe, fod yr arweinyddiaeth a'r proffil y mae'r cyngor wedi'u rhoi i ddatblygu Abertawe yn y dyfodol yn rhywbeth sy'n rhoi gobaith ar gyfer y dyfodol yn fy marn i. Ond wrth gwrs, byddaf yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi'u codi.