1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 15 Mehefin 2022.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau? OQ58185
Gwnaf. Rydym yn gwneud cynnydd da ac rydym eisoes wedi gweithredu nifer o gamau gweithredu allweddol yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys lansio Twf Swyddi Cymru+ yn llwyddiannus a lansiad mwy diweddar ReAct+.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Yr wythnos diwethaf, cefais y pleser o fynychu prosiect Engage for Change a hefyd interniaeth Project SEARCH ym Mhrifysgol Caerdydd, lle cyfarfûm â'r tîm hynod ymroddedig sy'n gweithio yno, ac mae Engage to Change yn bwriadu gadael gwaddol i bobl ag anableddau dysgu, anhawster dysgu penodol a/neu awtistiaeth. A gwelais eu bod yn rhoi pobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu mewn gwaith. Mae'n brosiect trawiadol. Cydnabu'r Gweinidog bwysigrwydd hyfforddi pobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth ar gyfer swyddi yn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau a gyhoeddwyd. Yn y cyfarfod hwnnw, serch hynny, tynnwyd fy sylw at gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cymorth hyfforddiant swyddi i bobl dros 25 oed sy'n dymuno gweithio, ac a allai fod yn ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ar hyn o bryd a'r tu allan i gylch gwaith prentisiaethau â chymorth. Felly, pa gynlluniau pellach sydd gan y Gweinidog ar gyfer pobl dros 25 oed yn yr amgylchiadau hynny?
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen ReAct+ newydd yn darparu cymorth personol i bobl sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Felly, mae mynd â'r gwasanaeth gam ymhellach a rhoi cymorth i hyfforddi unigolion i mewn i waith yn rhan o'r hyn y disgwyliwn iddo ei gyflawni. Yn fwy penodol, yn ddiweddar cyfarfûm ag Anabledd Dysgu Cymru, sy'n cynrychioli'r sector anabledd dysgu, fel y gŵyr yr Aelod, i glywed yn uniongyrchol am y problemau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, ac mewn gwirionedd mae'r pwynt a godwch yn awr am y cymorth a'r hyfforddiant a'r mentora sydd ei angen yn aml i helpu pobl i mewn i waith yn rhan o'r hyn y gwnaethant ei ddwyn i'n sylw. Felly, mae'n sicr yn rhan o'r hyn sydd wedi llywio'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau, ac rwy'n disgwyl iddo fod yn rhan o'r gwasanaeth. Yn amlwg, bydd angen i ni ddeall wedyn a yw'n diwallu anghenion pobl yn y modd yr ydym yn dymuno iddo ei wneud. Felly, credaf fod y sail a'r polisi yno, ac mae ein dealltwriaeth o'r angen yn sicr yno hefyd. Mae angen inni sicrhau yn awr ei fod yn cyflawni'r hyn yr ydym eisiau iddo ei gyflawni yn ymarferol. Rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â'r Aelod wrth i'r rhaglen honno barhau i sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn yr ydym eisiau iddo ei wneud mewn gwirionedd.
Gwneir ymrwymiad clir yn 'Cymru gryfach, decach a gwyrddach: cynllun cyflogadwyedd a sgiliau' i gefnogi ac annog cyflogwyr i greu cyflogaeth o ansawdd uchel gan wella'r cynnig i weithwyr. Un ffordd yr ydych yn bwriadu gwneud hyn yw drwy ddarparu cyllid drwy Fanc Datblygu Cymru i gefnogi busnesau i greu a chynnal swyddi newydd. Nawr, cynnal swyddi yw'r union beth y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrechu i'w wneud yn Llandudno, drwy fuddsoddi gwerth £400,000 o gyllid adnewyddu cymunedol mewn cymhorthdal cyflog gaeaf, fel y gall gwestai a busnesau twristiaeth eraill yn ein tref gadw staff drwy'r flwyddyn. Nawr, mae'r sector twristiaeth yn wynebu argyfwng cyflogaeth ledled Cymru, nid yn Llandudno yn unig, ac mae hynny wedi arwain at y dyfyniad canlynol gan UKHospitality Cymru
'Mae materion recriwtio a sgiliau parhaus yn y sector lletygarwch yng Nghymru yn cyfyngu ar brofiad ymwelwyr, yn niweidio hyfywedd busnesau ac yn bygwth amharu ar adferiad y diwydiant.'
O ystyried yr ymrwymiad yn eich cynllun i ddarparu cyllid i gynnal swyddi, a wnewch chi ystyried efelychu'r gwaith y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud yn eu cynllun hwy? Gadewch inni gael hyn ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru. Diolch.
Fel bob amser, mae gennym her mewn perthynas â chynlluniau cymhorthdal cyflog cyffredinol ar draws y sector cyfan. Mewn gwirionedd, yn fy nhrafodaethau gyda phobl yn yr economi ymwelwyr—ac rwy'n cyfarfod â'r grŵp economi ymwelwyr yr wythnos nesaf—maent yn tynnu sylw'n rheolaidd at y ffaith bod ganddynt her o ran sgiliau yn y sector, ond maent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod ganddynt her o ran recriwtio pobl i'r sector. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam ein bod, gyda hwy, wedi cymryd rhan mewn ymgyrch i geisio annog pobl i ailystyried gyrfaoedd yn y sector, nid cyflogaeth dymhorol yn unig. Felly, mae ymgyrch Experience Makers yn un yr ydym wedi'i hyrwyddo ar y cyd â hwy.
Mae hefyd yn sector yr effeithiwyd arno gan rai o'r newidiadau yn yr economi, cyn ac ar ôl y pandemig. Felly, yn y sector lletygarwch yn benodol—ac rwy'n ymwelydd rheolaidd â Llandudno oherwydd yr amrywiaeth o ddigwyddiadau gwleidyddol sy'n digwydd yno'n syfrdanol o rheolaidd—mewn gwirionedd, fe welwch fod llawer o bobl yn y sector lletygarwch yn dod o wledydd Ewropeaidd, ac rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n gweithio nid yn unig yn y sector hwn, ond mewn sectorau eraill hefyd. Dyna un o'r newidiadau sy'n digwydd. Mae'r bobl hynny'n annhebygol o ddychwelyd o Ewrop i'r DU. Mae angen inni hefyd weld rhai o'r newidiadau sy'n digwydd mewn perthynas â phobl yn gadael y farchnad lafur ar ôl y pandemig hefyd.
Felly, mae amrywiaeth o faterion anodd inni eu deall, ac yna ystyried i ba raddau y gallwn wneud gwahaniaeth. Dyna pam y mae'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau yn edrych ar y bobl sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur, oherwydd mae'r Adran Gwaith a Phensiynau—[Anghlywadwy.]—mae'r bobl hynny'n fwy tebygol o fod yn barod am waith. Felly, rydym yn disgwyl cydweithio â Llywodraeth y DU a'i hasiantaethau yn y maes hwn i feddwl sut y gwnawn y gwahaniaeth mwyaf gyda'r arian a'r cyfrifoldebau sydd gennym, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr wrth inni geisio gwneud cynnydd ar y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau.