Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Mehefin 2022.
Ddirprwy Weinidog, rwyf wedi clywed gan nifer o ofalwyr yn fy rhanbarth sydd o dan bwysau ariannol sylweddol ac nid ydynt yn siŵr a fyddant yn gallu parhau â'u gwaith yn y sector am nad yw eu cyflogau'n ddigon i dalu eu biliau, yn enwedig eu biliau tanwydd. Clywais yn ddiweddar gan weithiwr gofal cartref sydd wedi gweithio fel gofalwr ers dros 30 mlynedd. Mae'r gofalwr yn gwario £90 yr wythnos yn bellach, ac yn defnyddio eu diwrnodau rhydd i gasglu cyfarpar diogelu personol cyn eu shifftiau. Tybed a wnewch chi ddweud wrthyf pa gamau pellach i'r rhai a gymerwyd yn gynharach eleni y byddai'r Llywodraeth yn eu hystyried i sicrhau ein bod yn recriwtio ac yn cadw ein staff gofal, ac yn arbennig, pa gamau y gallwn eu cymryd i gefnogi ein gweithwyr gofal gyda chostau tanwydd, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno eu bod yn hanfodol mewn ardal wledig. Diolch yn fawr iawn.