Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a phrynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Siambr hon nad oedd angen ymchwiliad annibynnol i wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghymru, er gwaethaf ymchwiliadau tebyg yng ngwledydd eraill y DU ac er gwaethaf galwadau gan lawer o'r arbenigwyr yn y sector. Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y cyfoeth o gyngor ac adroddiadau a gafodd eich Llywodraeth, megis yr 'Adolygiad Argyfwng Gofal' yn 2018 ac adroddiad 'Born into care: newborns and infants in care cases in Wales' 2019 gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield. Dywedodd y Prif Weinidog nad oedd angen rhagor o gyngor arnoch. A wnewch chi egluro felly pam fod dau arbenigwr yn y maes yn 2022 yn dweud bod gofal cymdeithasol plant yng Nghymru mewn argyfwng ac yn galw am adolygiad annibynnol?