Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:32, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, mae eich ateb yn fy siomi, Ddirprwy Weinidog, a bydd rhaid inni gytuno i anghytuno ynghylch yr angen am yr adolygiad. Ac mae gennym ddyletswydd, rhwymedigaeth, i ddiogelu ein plant rhag niwed, i'w diogelu rhag profiadau niweidiol. Mae llawer gormod o blant yn dal i gael eu trin ar gyfer dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Nid yw nifer y bobl sy'n cael eu trin ar gyfer syndrom alcohol ffetws yn cael ei gadw'n ganolog, felly nid oes gennym ddarlun cyflawn. Ddirprwy Weinidog, rydych wedi gwrthod ein galwadau i fabwysiadu targed 70/30 Ymddiriedolaeth WAVE am nad yw'n mynd yn ddigon pell, ond beth a wnewch i ddileu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yma yng Nghymru?