Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 15 Mehefin 2022.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Yn rhy aml, mae'r unig drafodaeth ar ofal cymdeithasol yn ymwneud â'i effaith ar ryddhau cleifion o'r ysbyty. Mae'n bwysicach o lawer na hynny; mae gofal cymdeithasol yn bwysig nid yn unig ar gyfer rhyddhau cleifion o'r ysbyty, ond ansawdd bywyd y bobl sy'n ei dderbyn, ac os caf fi ddweud, mae'n ymwneud ag atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty am eu bod wedi cael eu trin yn eu cartrefi eu hunain ac yn gallu byw bywydau da yn eu cartrefi eu hunain. Credaf weithiau ein bod yn meddwl bod y cyfan yn ymwneud ag iechyd—wel, mewn gwirionedd, fod y cyfan yn ymwneud ag ysbytai: 'Ar gyfer iechyd, gweler ysbytai; ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, gweler iechyd.' A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod angen inni wella'r broses o gadw a recriwtio drwy gyflogau ac amodau cyflogaeth, yn ogystal â chreu cyfradd gyflogau genedlaethol debyg i'r gyfradd ar gyfer nyrsys?