Gwasanaethau Iechyd Meddwl Amenedigol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:55, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae mamau newydd wedi cael ychydig o flynyddoedd anodd iawn. Mae'r pandemig wedi arwain at gynifer ohonynt yn mynd drwy lawer o gerrig milltir ar eu pen eu hunain, yn dioddef o unigrwydd ac arwahanrwydd mawr ar adeg a allai fod wedi bod yn hapus iawn fel arall. Os gwelwch yn dda, Weinidog, hoffwn wybod a oes asesiad wedi'i wneud o'r effeithiau y mae'r pandemig wedi'u cael ar rieni newydd a phlant a aned ers 2020. Sut y mae methu gweld pobl wyneb yn wyneb wedi effeithio arnynt, beth am effaith newidiadau staffio, a sut yr effeithiwyd ar waith timau iechyd amenedigol cymunedol, neu ymwelwyr iechyd? Ac yn olaf, Weinidog, pa waith a wneir yn awr i sicrhau bod bod yn rhiant newydd yn amser y gall pob rhiant ei fwynhau?