Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Mehefin 2022.
Wel, yn bendant, rydych wedi camddeall os credwch ein bod rywsut wedi hepgor orthopedeg o'n strategaeth gofal wedi'i gynllunio. Dyna lle mae gennyf fwyaf o bryderon, oherwydd mae'r rhestrau aros yn faith iawn mewn gwirionedd, a dyna pam ein bod yn rhoi llawer o sylw iddo ac yn canolbwyntio arno. Ac rwyf wedi dweud yn gwbl glir, fel y gŵyr yr Aelod, fy mod yn awyddus iawn i weld hybiau rhanbarthol yn cael eu datblygu, ac rydym yn gweld yr union beth yr ydych yn ei awgrymu yn cael ei ddatblygu, yn Hywel Dda er enghraifft.