Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:42, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn gwrando ar glinigwyr. Ni yw'r bobl sydd wedi gofyn i'r bobl hyn feddwl am syniadau. Y cyfyngiad arnom yw cyfalaf, felly dyna'r broblem sydd gennym. A allwn ni sefydlu'r sefydliadau hyn mewn gwirionedd? Rwy'n credu y bydd angen inni addasu'r hyn sydd gennym, yn hytrach nag adeiladu cyfleusterau newydd, ond ni chewch unrhyw wrthwynebiad yma rhag gwneud hynny. Ac wrth gwrs, y mater arall yw nad yw'n ymwneud â llawfeddygon yn unig, mae'n ymwneud â'r holl dimau o'u cwmpas mewn gwirionedd, a dyna'n sicr yw'r neges a glywais yn uchel ac yn glir iawn gan Gymdeithas Lawfeddygol Cymru ddydd Gwener.