Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch, Janet, a gallwch fod yn gwbl dawel eich meddwl fod hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Dyna pam y gwnaethom sicrhau bod y cyllid rheolaidd ar gael, i sefydlu timau iechyd meddwl amenedigol. Maent ar waith ym mhob rhan o Gymru. Roeddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r tîm amenedigol yn Betsi, sy'n gwneud gwaith rhagorol iawn yn cefnogi teuluoedd ar adeg a all fod, fel y dywedwch, yn gyfnod heriol iawn yn eu bywydau. Ond rydym yn gwybod bod angen inni wneud mwy, a dyna pam ein bod yn parhau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol, ac mae hyn hefyd yn flaenoriaeth i bethau fel cynllun gweithlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Ond rydym wedi gwneud cynnydd da iawn yn sefydlu'r timau hynny, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu ein ffocws ar iechyd meddwl amenedigol, oherwydd rydym yn cydnabod nad ar gyfer y teuluoedd yn unig y mae hyn; mae'n ymwneud â rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i fabanod.