Gwasanaethau Gofal Sylfaenol yn Ne-ddwyrain Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:43, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn ardal Severnside yn fy etholaeth i yn Nwyrain Casnewydd, rydym wedi gweld llawer iawn o gynnydd yn nifer y tai dros y blynyddoedd diwethaf, yn ardaloedd Magwyr, Rogiet, Gwndy a Chil-y-coed a'r cyffiniau, ond nid ydym wedi gweld y math o gynnydd mewn gwasanaethau gofal sylfaenol a fyddai'n adlewyrchu'r cynnydd yn y boblogaeth. Ac mae llawer o bobl yn yr ardaloedd hyn bellach yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan feddygon teulu a gofal sylfaenol yn gyffredinol, a hoffent weld cynnydd yn y capasiti hwnnw. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf sut rydych yn gweithio gyda byrddau iechyd a meddygfeydd i ymateb i'r sefyllfaoedd hynny, lle mae gennym boblogaethau sy'n tyfu, a phryderon nad oes capasiti gofal sylfaenol i gyd-fynd â'r datblygiadau hynny?