Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch. Mae gwella llesiant Cymru wrth wraidd popeth a wnawn, diolch i'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n torri tir newydd. Mae enghreifftiau o gamau gweithredu penodol yn cynnwys y gronfa iach ac egnïol, i gefnogi prosiectau sy'n cynyddu gweithgarwch corfforol y rhai nad ydynt yn gwneud fawr o weithgarwch corfforol ar hyn o bryd, os o gwbl, a gwella lles meddyliol.