Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch i chi am y diweddariad, a dwi'n edrych ymlaen i weld yr ysgol feddygol yn cael canolfan newydd sbon yng nghanol dinas Bangor maes o law, fydd yn gallu cyfrannu yn ogystal at y gwaith o adfywio'r stryd fawr yn y ddinas.
Mae strategaeth eich Llywodraeth chi, 'Mwy na geiriau', yn pwysleisio bod cael gofal yn eich iaith gyntaf yn allweddol i ansawdd y gofal yna. Mae hyn yn wir am blant bach uniaith Gymraeg sydd heb gaffael y Saesneg ac mae o'n wir hefyd am oedolion sydd wedi colli'r defnydd o'u hail iaith. Fedrwch chi felly egluro wrthyf i sut bydd ysgol feddygol Bangor yn cyfrannu at y gwaith o greu doctoriaid dwyieithog? A wnewch chi amlinellu eich disgwyliadau chi o ran recriwtio myfyrwyr dwyieithog ar gyfer eu hyfforddi yn ysgol feddygol y gogledd? A pha dargedau, pa gwotâu, sydd eu hangen i'w cyflwyno gan y ddwy brifysgol sydd yn rhan o'r prosiect yma?