Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr, ac rŷn ni'n sicr yn gobeithio y bydd hynny'n digwydd. Wrth gwrs, rŷn ni eisoes wedi rhoi £2 miliwn o bunnoedd er mwyn sicrhau ein bod ni'n gweld delivery ar y pwnc yma ac, yn sicr, beth rŷn ni eisiau ei weld o ran y capasiti ar y bwrdd yna a'r niferoedd a'r math o bobl sydd gyda ni ar y bwrdd yw bod y rhaglen newydd yn cymryd agwedd mwy holistig efallai i ofal diwedd oes. Rŷn ni'n gwybod bod tua 33,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru. Rŷn ni'n disgwyl gweld hynny'n cynyddu 27 y cant erbyn 2040, ac felly mae rhoi diwedd i fywyd da i bobl yn mynd i fod yn rhywbeth sy'n hollbwysig. Mae'n bwysig nawr, ond, gyda'r cynnydd aruthrol yna, mae'n bwysig ein bod ni yn rhoi mwy o ffocws iddi.