Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:25 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol y bydd yr anfarwol Tom Jones a Stereophonics yn perfformio y penwythnos hwn, o flaen miloedd o bobl, yn ddi-os, yng Nghaerdydd ddydd Gwener a dydd Sadwrn yma. Nawr, ychydig wythnosau yn ôl, gwelsom i gyd yr anhrefn llwyr pan gynhaliodd Ed Sheeran dri chyngerdd yn Stadiwm Principality. Roedd ciwiau 15 milltir o hyd ar yr M4, modurwyr wedi'u caethiwo yn eu meysydd parcio oherwydd y tagfeydd yng nghanol y ddinas, a llawer o bobl wedi'u gadael ar blatfformau gorsafoedd am oriau oherwydd na allai ein rhwydwaith rheilffyrdd chwilfriw ymdopi â'r galw. Os caf ei roi'n blwmp ac yn blaen, Weinidog, daethpwyd â Chaerdydd a'r ardaloedd cyfagos i stop am fod y Llywodraeth Lafur wedi methu cynllunio ymlaen llaw, ac ni allwch feio Llywodraeth San Steffan am hyn.
Rwy'n siŵr y bydd sawl un yma yn y Siambr yn cytuno â mi mai'r peth olaf yr ydym am ei weld yw ailadrodd y digwyddiadau diweddar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn hwn, ond yn anffodus mae'n ymddangos nad yw gwersi wedi'u dysgu, gyda Trafnidiaeth Cymru yn rhoi esgusodion ymlaen llaw ac yn gofyn i bobl beidio â defnyddio ei gwasanaethau. Mae'n sefyllfa drist iawn pan fydd pobl yn cael eu hannog i beidio â dal trên am nad yw'r rhwydwaith rheilffyrdd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae cyngherddau Tom Jones a Stereophonics wedi bod ar y calendr ers o leiaf chwe mis, a byddai unrhyw un sydd â chymaint â hyn o synnwyr cyffredin yn gwybod eu bod yn mynd i ddenu miloedd o bobl i mewn i'r ddinas. Felly, Weinidog, pa wersi sydd wedi'u dysgu o ffiasgo Ed Sheeran, a pha gamau y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i leihau'r aflonyddwch cyn y cyngherddau yr wythnos hon?
Ac yn ail, nod strategaeth digwyddiadau mawr Llywodraeth Cymru, a ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl, oedd
'datblygu portffolio cytbwys a chynaliadwy o ddigwyddiadau mawr a fydd yn gwella lles pobl a chymunedau Cymru ac enw da'r wlad yn rhyngwladol.'
A ydych yn derbyn bod y strategaeth hon wedi methu'n llwyr? A pha drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â chyhoeddi cynllun wedi'i ddiweddaru sy'n gwneud yr hyn y bwriadwyd iddo ei gyflawni? Diolch yn fawr, Weinidog.