Part of the debate – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 15 Mehefin 2022.
Un bach. Mae'n wych gweithio gyda chi ar y mathau hyn o faterion ar y pwyllgor, ochr yn ochr â chi. A fyddech yn cytuno mai'r ffasiwn ddiweddaraf yn awr yw lawntiau plastig? Wrth gwrs, nid yw lawntiau plastig yn amsugno unrhyw beth. A chan ein bod yn cymryd camau bellach i geisio gwarchod ein hamgylchedd, gwn na allwn gyflwyno polisi neu ddeddfwriaeth, ond oni ddylem, efallai, gyfleu'r neges ei bod yn llawer gwell ichi gadw eich lawnt naturiol o ran hyn ac o ran diogelu ein hamgylchedd? Diolch.