Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 15 Mehefin 2022.
Felly, i'ch atgoffa, ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ddadl ar y cyd â'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar weithrediad y Ddeddf, gan adlewyrchu gwaith yr archwilydd cyffredinol a gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y pumed Senedd. Mae cylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn benodol yn cynnwys craffu ar lesiant cenedlaethau'r dyfodol yn y chweched Senedd, er, fel y dywedais ym mis Tachwedd, rhaid i bob pwyllgor ysgwyddo'r cyfrifoldeb o ymgorffori egwyddorion a nodau'r Ddeddf yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Ac mae'n amlwg bod mwy y gallwn i gyd ei wneud i sicrhau ei fod yn rhan annatod o bob agwedd ar ein gwaith.
Cododd yr adroddiad yr ydym yn ei drafod heddiw o waith craffu blynyddol ein pwyllgor ar y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ôl ym mis Chwefror. Mae pob un o'i bedwar argymhelliad wedi'u derbyn mewn sawl ffordd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Llywodraeth Cymru, felly nid yw hyn yn ymwneud â holi ymhellach pam fod argymhelliad x neu y wedi'i wrthod neu wedi'i dderbyn mewn egwyddor yn unig. Heddiw, rhaid i'r Senedd fynd i'r afael â'r materion sylfaenol sy'n deillio o dderbyn yr argymhellion hyn, ac mae'r rhain yn mynd ymhell y tu hwnt i effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol presennol fel deiliad y swydd, a'i swyddfa. Rhaid inni sicrhau bod ein holl gomisiynwyr annibynnol a'u swyddfeydd yn defnyddio eu hadnoddau a'u pwerau craffu i'r eithaf.
Felly, wrth i gyfnod saith mlynedd Sophie Howe ddod i ben ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, mae'n adeg dda iawn i adolygu'r trefniadau ariannu ar gyfer comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, a'r holl gyrff craffu annibynnol eraill hyn. Rhaid i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, gyda'i gyfrifoldebau gweinyddu cyhoeddus ychwanegol, fynd i'r afael â'r rhesymeg sy'n sail i drefniadau ariannu pob un o'r pum comisiynydd yng Nghymru. Crëwyd yr holl swyddi hyn ar wahanol adegau a chyda gwahanol ysgogiadau deddfwriaethol. Mae tudalen 7 o'n hadroddiad yn nodi bod gan gomisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol gyllideb o £1.5 miliwn, ac mae hynny'n cymharu â £3.3 miliwn, er enghraifft, ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg a dros £5 miliwn ar gyfer yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus. Crëwyd y comisiynydd plant yn y Senedd gyntaf, cafodd y lleill eu creu mewn Seneddau dilynol, ac nid oes unrhyw gydlyniad, mewn gwirionedd, o ran y ffordd y mae'r cyllid a'r adnoddau wedi'u darparu iddynt. Felly, dyma gyfle da i sicrhau sylfaen briodol yn hynny o beth, ac felly rhaid inni edrych ymlaen at yr adolygiad systematig o sut y darperir adnoddau i gomisiynwyr Cymru ac a yw hyn yn adlewyrchu eu cylch gwaith presennol yn ddigonol. A ydynt yn sicrhau'r effeithlonrwydd mwyaf posibl yn y ffordd y maent yn cyflawni eu dyletswyddau ar gyfer Cymru gyfan, ynteu a allent fod yn gwneud pethau'n wahanol, gan rannu rhai o'u treuliau ystafell gefn, ac yn y blaen?
Argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru oedd argymhelliad 2. Ni allwn ddal ati i ychwanegu at gawl o gyrff cyhoeddus heb fod goblygiadau ychwanegol o ran adnoddau. Mae tirwedd weinyddol sydd wedi'i gorgymhlethu yn ei gwneud yn anodd i sefydliadau rhanddeiliaid ddeall sut a lle y gwneir penderfyniadau, felly mae'n rhaid ei fod yn ddyrys i ddinasyddion Cymru. Roeddwn wrth fy modd yn clywed y Gweinidog Newid Hinsawdd yn dweud y bore yma fod y cynllun ynni morol wedi'i symud i'r cynllun sero net, ond mae arnom angen llawer mwy o'r cydlyniad deallusol hwnnw i sicrhau bod pobl yn deall prosesau llywodraethu a sicrhau eu bod yn hawdd i'w craffu.
Argymhellodd adroddiad cenedlaethau'r dyfodol yn ôl yn 2020 y dylai Llywodraeth Cymru roi'r gorau i gymhlethu tirwedd sydd eisoes yn gymhleth, ac mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi dweud wrthym y bydd llai na 10 corff cyhoeddus ychwanegol yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae adolygiad ar y gweill, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, ar weithrediadau'r Ddeddf a'r comisiynydd. Rhaid inni gofio bod goblygiadau ariannol i unrhyw gynnydd yn nyletswyddau comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, neu fel arall gallai wanhau gallu'r comisiynydd i graffu ar y rhestr gynyddol o gyrff y mae'n gyfrifol amdanynt.
Felly, mae swyddogion yn ymchwilio i gwmpas a chyfrifoldebau'r Ddeddf a ph'un a oes angen diwygio'r Ddeddf ai peidio. Mae'n bosibl y bydd buddiannau'n gwrthdaro, ac mae angen i'r Senedd fod yn ymwybodol o hynny. Yn ôl ym mis Chwefror, yn ein sesiwn graffu, cododd y comisiynydd bryderon penodol am yr haen fwyaf newydd, sef y cyd-bwyllgorau corfforaethol, ac mae'r gydberthynas rhwng byrddau gwasanaethau cyhoeddus, byrddau partneriaeth rhanbarthol a chyd-bwyllgorau corfforaethol yn aneglur hyd yn oed i'r comisiynydd, sydd â'r gwaith o graffu ar ba mor dda y maent yn rhyngweithio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Cawsom ein hatgoffa gan y comisiynydd hefyd am y bwlch gweithredu, rhywbeth yr ydym yn sôn amdano'n aml—y duedd sydd gan y Llywodraeth i wthio deddfwriaeth, polisi, arweiniad a chyfeiriad heb lawer o ddealltwriaeth ynglŷn â sut y caiff ei gyflawni na'i ariannu'n ddigonol yn ymarferol. Yn ystod ein gwaith craffu, fe'n hatgoffwyd gan y comisiynydd hefyd o'i phwerau o dan adran 20 o'r Ddeddf.
Canfu ei hadolygiad o gaffael nad yw cyrff cyhoeddus yn cymhwyso Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn ddigonol yn eu penderfyniadau caffael. Mae hyn yn rhywbeth y bydd ein pwyllgor, wrth gwrs, yn ailedrych arno yn ein gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae Sophie Howe bellach yn cynnal adolygiad adran 20 o beirianwaith Llywodraeth Cymru, sy'n waith amserol yng nghyd-destun y ddadl hon.
Galwai argymhelliad 3 ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y mae'n defnyddio hyfforddiant a datblygiad proffesiynol i sicrhau bod ei gweithwyr ei hun yn deall ac yn cydymffurfio â'r Ddeddf yn llawn. Mae'n sefydliad mawr iawn, ac ni all y Gweinidog fod yn gyfrifol am bopeth y mae swyddogion yn ei wneud. Felly, mae'n bwysig iawn fod yr Ysgrifennydd Parhaol yn sicrhau bod pob haen o Lywodraeth Cymru yn deall pwysigrwydd y Ddeddf.
Mae argymhelliad 4, a gafodd ei dderbyn gan y Llywodraeth hefyd, yn nodi cynlluniau ar gyfer ymgorffori'r Ddeddf ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a allai gael ei llunio gan y ddeddfwriaeth hon a sicrhau bod gweithrediad y Ddeddf yn addas i'r diben.
Felly, edrychaf ymlaen yn fawr at weld y ffordd y bydd y Gweinidog yn bwrw ymlaen â'r cyfathrebu hwnnw, ac yn enwedig gyda'r gymdeithas yn ehangach yng nghyd-destun yr holl bethau eraill sy'n digwydd yn ein bywydau, gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd. Felly, ceir arwyddion cadarnhaol o gynnydd ar weithredu'r Ddeddf, ac mae'n wych fod ein holl argymhellion wedi'u derbyn. Fodd bynnag, mae digon o le i wella, yn enwedig mewn perthynas â'r bwlch rhwng polisi ac ymarfer. Ac o ystyried natur drawsbynciol y Ddeddf, rydym yn falch iawn o allu codi'r materion hyn ar lwyfan y Senedd, oherwydd mae'n gyfrifoldeb i bawb ohonom yn y pen draw.