Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol am eu hadroddiad ar y gwaith craffu blynyddol ar Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac am eich cyfraniadau heddiw. Rwy'n croesawu parhad y sgwrs y buom yn ei chael yn y Senedd ynglŷn â sut y gallwn ddefnyddio deddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol i roi Cymru ar lwybr mwy cynaliadwy.
Mae’r ddadl heddiw'n ymwneud â gwaith y comisiynydd a’i hadroddiad blynyddol, a hoffwn ddechrau drwy ddweud fy mod yn hynod ddiolchgar am waith y comisiynydd a’i swyddfa yn cefnogi newidiadau cynaliadwy ar draws cyrff cyhoeddus yng Nghymru, a diolch iddi hi a'i thîm am sefydlu’r swyddfa mewn ffordd mor bwerus ac arwyddocaol. Mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn herio ac yn galluogi pob un ohonom i feddwl am y tymor hir, fel y dywedwyd, fel y gallwn adael etifeddiaeth well gyda’n gilydd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ac mae rôl y comisiynydd yn rhan hanfodol, sydd bellach yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol, o'r gwaith o weithredu’r Ddeddf, o ganlyniad i waith a dylanwad y comisiynydd a’i thîm, ac rwyf wedi fy nghalonogi gan adroddiadau’r comisiynydd, sy’n tynnu sylw at arferion da ledled Cymru o ran rhoi'r Ddeddf hon ar waith.
Mae ein camau gweithredu a’n harweinyddiaeth ar agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cyflymu yn nhymor y Llywodraeth hon, ac rydym yn manteisio i’r eithaf ar bob cyfle i gyflawni ein hamcanion llesiant, gan nodi meysydd lle y gallwn integreiddio dulliau gweithredu a chyfrannu at lunio dyfodol Cymru. Rwy’n arbennig o falch fod y pwyllgor a’r comisiynydd wedi croesawu’r ffaith ein bod yn parhau i gryfhau ein hymrwymiad gwleidyddol a’n harweinyddiaeth ar yr agenda hon, ac mae’n ymrwymiad trawslywodraethol, yn amlwg, gan fod gwelliannau o ran integreiddio a gweithredu'r Ddeddf wedi’u gwreiddio yn y ffordd y mae hynny wedi'i gyflwyno, unwaith eto, gan y pwyllgor ac yn y ddadl heddiw, fel y gellir ei rhoi ar waith i'r diben hwnnw ar lefel polisi strategol.
Gan droi at adroddiad y pwyllgor, fel y nodwyd, rydym wedi derbyn argymhellion 2 a 4. Yn argymhelliad 2, rydym yn cydnabod y bydd ehangu’r rhestr o gyrff sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf yn cynyddu nifer y cyrff y mae dyletswydd a swyddogaethau cyffredinol y comisiynydd yn berthnasol iddynt. A hoffwn roi sicrwydd i Gadeirydd y pwyllgor a'r Aelodau ein bod yn cael trafodaethau gyda swyddfa'r comisiynydd ynglŷn â'r goblygiadau ariannol ar gyfer ei swyddfa. Ond rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion archwilio’r cwmpas a’r angen i werthuso’r Ddeddf, a allai gynnwys asesiad o rôl a swyddogaethau’r comisiynydd, a byddaf yn darparu mwy o wybodaeth i’r pwyllgor am y gwerthusiad hwn maes o law, a byddwn yn croesawu cyfraniad y pwyllgor yn y gwaith hwn.
Mae argymhelliad 3 yn yr adroddiad yn ymwneud â hyfforddiant a datblygiad proffesiynol gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru. Mae’n fater i’r Ysgrifennydd Parhaol, sydd wedi rhoi ymateb ar wahân i’r pwyllgor. Ond credaf fod gennym enghreifftiau, ac rwyf am roi un neu ddwy, o’r newid cyfeiriad a’r ffordd y caiff Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol ei rhoi ar waith, ac wedi cael effaith enfawr ar waith datblygu polisi a chyflawni polisi, a datblygu gwasanaethau wedyn, gan ein gwasanaeth sifil.
Ar argymhelliad 4, mae a wnelo â chynlluniau ar gyfer ymwreiddio’r Ddeddf. Hoffwn amlinellu rhai o'r camau yr ydym yn eu cymryd i ymwreiddio'r Ddeddf ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus a chydnabod hefyd fod hwn yn bwynt allweddol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus. Mae ein rhaglen lywodraethu, gyda’r 10 amcan llesiant sydd wrth ei gwraidd, yn dangos rôl hollbwysig y Ddeddf yn ein ffordd o feddwl a’n polisïau. Mae gennym bellach 50 o ddangosyddion llesiant cenedlaethol a naw carreg filltir genedlaethol ar waith, ac mae hynny’n ein helpu i fonitro cynnydd tuag at ein saith nod llesiant. Ochr yn ochr â’n hadroddiad tueddiadau’r dyfodol, mae’r mecanweithiau hyn yn adlewyrchu’r arferion gorau wrth ymateb i agenda’r Bil datblygu cynaliadwy a sicrhau bod fframwaith llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn parhau i fod yn berthnasol i Gymru yn 2022 ac yn hirdymor. Mae ein fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn bwysig iawn. Mae’n parhau i’n cynghori a’n cefnogi, ac yn ddiweddar, mynychais un o sesiynau'r fforwm a oedd yn trafod pwysigrwydd amrywiaeth o fewn agenda llesiant cenedlaethau’r dyfodol, er mwyn sicrhau nad yw ein hymgais i gyrraedd y nodau llesiant yn dal unrhyw yn ôl nac yn gadael unrhyw un ar ôl. Ac roedd y digwyddiad hwn yn bwysig ynddo'i hun gan ei fod yn allweddol wrth sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn rhannu arferion da gyda'i gilydd, ac nid yn unig yn mynd i'r afael â'r rhain o'u safbwyntiau eu hunain, ond yn rhannu arferion da, fel bod hynny'n arwain at lawer o waith dilynol, a dangos sut y gellir rhoi pethau ar waith, yn aml, pan fydd hynny'n digwydd mewn partneriaeth. Felly, roedd honno’n enghraifft wirioneddol dda o sut rydym yn ymwreiddio’r Ddeddf. Ond gan adeiladu ar ganfyddiadau'r adroddiad, fe fyddwn, ac rydym, yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyfathrebu'n well y camau yr ydym yn eu cymryd i ymwreiddio'r Ddeddf ymhellach yn y ffordd y gweithiwn.
Ychydig enghreifftiau nodedig o lle mae’r Ddeddf wedi bod yn sail i’n gwaith ar lefel leol: cawsom ambell enghraifft gan yr Aelodau heddiw, yn ogystal ag ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ac yn Llywodraeth Cymru. Ac unwaith eto, diolch i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus am gydnabod hefyd yr enghreifftiau hynny o arferion da lle mae cyrff cyhoeddus wedi newid y ffordd y maent yn gweithio, a chanlyniadau hynny yw'r hyn yr edrychwn amdano. Mae cymunedau a rhanbarthau ledled Cymru wedi’u hysbrydoli gan fenter Parc Rhanbarthol y Cymoedd, ac mae’n enghraifft dda sy'n dod â phartneriaid ynghyd i feddwl am y cydweithio hirdymor gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys cymunedau er mwyn cael y gorau o dirweddau unigryw a gwerthfawr Cymru, a chyfuno natur gydag ysbryd cymunedol, datblygu economaidd, addysgu pobl am faterion hinsawdd a sicrhau bod sgiliau'n cael eu haddysgu ar draws yr ardal. A diolch, Gadeirydd, am gyfeirio at Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yn mabwysiadu fframwaith y Ddeddf hon.
Mae ein byrddau gwasanaethau cyhoeddus hefyd wedi defnyddio’r Ddeddf fel catalydd ar gyfer newid cadarnhaol. Un enghraifft: partneriaeth ymchwil a deall gogledd Cymru, sy'n dod â thimau o bedwar bwrdd gwasanaethau cyhoeddus gogledd Cymru ynghyd, ynghyd â'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol—diddorol sut y mae hynny wedi dod at ei gilydd. Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Data Cymru a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru—maent yn datblygu dulliau arloesol o ymgysylltu â dinasyddion, gan gynnwys y peilot dadansoddiad dinasyddion, gan ddangos ymrwymiad cadarn i gynnwys dinasyddion yn eu gwaith.
Felly, yn olaf gennyf fi, Ddirprwy Lywydd, mae gennym ddwy enghraifft yn Llywodraeth Cymru o ffyrdd yr ydym wedi defnyddio'r Ddeddf yn rhagweithiol iawn: cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, y cynllun peilot ar incwm sylfaenol—byddaf yn gwneud datganiad ar hyn cyn bo hir—ac rydym yn rhannu uchelgais y pwyllgor a'r comisiynydd ynglŷn â sut y defnyddiwn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i barhau i ddysgu a gwella'r ffordd y mae'r Llywodraeth a'r sector cyhoeddus yn gweithio yng Nghymru. Mae llawer mwy y gallwn ei wneud, yn amlwg, ond rwy'n gobeithio y bydd fy enghreifftiau wrth ymateb i’r ddadl o arferion sy'n cyflawni daliadau allweddol y Ddeddf yn rhoi anogaeth i Aelodau. Rwy'n croesawu craffu cydweithredol ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fel y gall y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus a alluogir gan y Ddeddf chwarae eu rhan yn y gwaith o gyflawni saith nod llesiant i Gymru.