7. Dadl Plaid Cymru: Strategaeth hydrogen

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 15 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:40, 15 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

A ydych chi hefyd, fel finnau, yn croesawu'r ffaith bod llawer o fusnesau mawr yn y gogledd yn dibynnu ar HyNet yn y dyfodol ac yn ei gefnogi'n llawn, ac er mai dim ond 50 mlynedd o gapasiti storio a geir ar gyfer prosiect HyNet, mae hyn er mwyn darparu lle i anadlu er mwyn cyflwyno'r dechnoleg hydrogen gwyrdd a fydd yn ein harwain at ddyfodol glanach byth?