Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 15 Mehefin 2022.
Er bod hydrogen yn dal i fod yn dechnoleg sy'n datblygu, mae ei nodweddion unigryw yn golygu y gallai, ochr yn ochr â datblygiadau ynni adnewyddadwy helaeth, fod â rôl gref yn sectorau pŵer, trafnidiaeth a diwydiant Cymru yn y dyfodol. Gall hefyd gynnig dewis amgen yn lle systemau gwresogi tanwydd ffosil, fel y crybwyllwyd gan nifer o gyfranwyr, a Rhun yn enwedig. Mae Cymru mewn sefyllfa dda iawn i ddatblygu a manteisio ar y cyfleoedd sy'n datblygu'n gyflym a gynigir gan hydrogen. Mae ganddo botensial enfawr i leihau allyriadau a chefnogi'r trawsnewidiad economaidd, yn enwedig mewn diwydiannau sy'n defnyddio llawer o ynni, cerbydau nwyddau trwm, rheilffyrdd, ac awyrennau o bosibl. Yn fyd-eang, cydnabyddir bod y sectorau hyn yn anodd eu datgarboneiddio, ac mae gan hydrogen rôl allweddol yn y map ffordd at sero net ar gyfer y sectorau hynny. Lywydd, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ceisio datgarboneiddio'r sectorau hyn, ac nad ydym yn creu cymhellion sy'n cynnal dibyniaeth barhaus ar danwydd ffosil. Er fy mod yn cydnabod y bydd yna gyfnod o bontio i rai sectorau yn sgil defnyddio hydrogen a gynhyrchir o danwydd ffosil, rhaid iddo fod yn newid cyflym ac mor gyfyngedig â phosibl. Rhaid inni symud at ddefnyddio hydrogen gwyrdd yn unig cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl, ac rwy'n croesawu'r ffocws penodol ar ynni gwyrdd yn y cynnig. Ac mae'n rhaid inni gydnabod bod hynny wedi bod yn wir ar gyfer yr holl ffynonellau ynni newydd sy'n dod i'r amlwg. Mae cost cynhyrchu hydrogen yn uchel ar hyn o bryd. Dyna pam y mae'n rhaid i ddatblygu hydrogen fod yn rhan o ymdrech lawer ehangach i sicrhau mwy o ynni adnewyddadwy. Rhaid manteisio ar y cyfleoedd y mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn eu cynnig i gynhyrchu hydrogen pan fo'r cyflenwad yn fwy na'r galw. Yn hytrach na thalu gweithredwyr ffermydd gwynt i roi'r gorau i gynhyrchu, dylem eu talu i ddarparu ffynhonnell ynni adnewyddadwy y gellir ei storio a'i defnyddio pan fo angen.
Rydym mewn argyfwng costau byw, wedi'i yrru'n rhannol gan gostau ynni uchel. Rhaid inni sicrhau bod ein dull o ddatgarboneiddio ein system ynni yn un teg i bob defnyddiwr, gan gynnwys busnesau yng Nghymru. Mae cefnogi arloesedd yn y sectorau preifat a chyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau bod hydrogen a mathau eraill o ynni carbon isel yn cyfrannu at ein cynllun Cymru Sero Net ac yn cefnogi adfywiad economaidd a chymdeithasol ein cymunedau. Dyna pam y buom yn cefnogi prosiectau ledled Cymru. Roedd ein cynllun menter ymchwil busnesau bach hybrid, Byw'n Glyfar, yn cefnogi 17 o brosiectau dichonoldeb ac arddangos hydrogen ledled Cymru. Mae'r 17 prosiect ym mlwyddyn gyntaf y cynllun yn cyflawni ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Maent yn amrywio o astudiaethau o gynhyrchiant hydrogen microwyrdd, hydrogen mewn ardaloedd gwledig, cynhyrchu tanwydd hedfan cynaliadwy, datblygu'r farchnad gerbydau, cynhyrchu hydrogen yn y gymuned, a phlatfform cyngor a rhwydweithio siop un stop digidol ar gyfer hydrogen. Bydd cam pellach o danwydd hybrid yn lansio yr wythnos nesaf ym Merthyr Tudful, gyda chymorth ar yr un lefel. Bydd hyn yn ariannu llif o brosiectau dichonoldeb busnes yn ogystal â gwaith arddangos a phrototeipio lefel uwch ar lawr gwlad ledled y wlad.
Mae ein hanes o gefnogi prosiectau arddangos hydrogen sy'n arwain y byd yng Nghymru hefyd yn cynnwys, fel y mae llawer o bobl wedi sôn, Milford Haven: Energy Kingdom, datblygiad parhaus hybiau cynhyrchu hydrogen gwyrdd yng Nghaergybi a Glannau Dyfrdwy, a grybwyllwyd hefyd gan amryw o'r Aelodau, a gwaith dichonoldeb llwyfannau alltraeth hydrogen gwyrdd arnofiol ar gyfer arfordir sir Benfro. Mae gwaith arall sydd ar y gweill a gefnogir gennym yng nghanolbarth Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, gyda llywodraeth leol, buddsoddwyr tramor a phartneriaid academaidd, gan gynnwys Flexis a South Wales Industrial Transition from Carbon Hub, yn addo cynyddu'r cyflenwad hydrogen yn sylweddol, ac y caiff galw cynyddol ei greu, yn enwedig ym maes trafnidiaeth a gwres. Byddwn yn creu piblinell ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru, gan gefnogi perchnogaeth leol a chadw cyfoeth ledled Cymru, ac wrth inni wneud hynny, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU, ac rydym eisoes wedi llwyddo i ddenu cyllid y DU yn sgil ein buddsoddiad. Ac er ein bod, wrth gwrs, yn croesawu'r cyllid hwnnw, fel y mae ar gael gan Lywodraeth y DU, rhaid i'r bobl ar y meinciau gyferbyn, a allai chwarae rhan fawr yn cefnogi hyn, gydnabod, os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau i sicrhau 10 GW erbyn 2030, fod angen mwy o gyllid ar frys gan Lywodraeth y DU. Byddwn wrth fy modd yn ymrwymo Cymru i gyflawni'r uchelgeisiau a nodir yng nghynllun 10 pwynt Llywodraeth y DU, ond heb i Lywodraeth y DU gynyddu'r cyllid, bydd y treialon hynny'n gyfyngedig tu hwnt, sy'n drueni mawr.
Rydym wedi cefnogi rhanddeiliaid o Gymru gyda'u ceisiadau posibl am gyllid y DU; byddwn yn dysgu'r gwersi o dreialon gwresogi hydrogen mewn rhannau eraill o'r DU. Yn y cyfamser, rydym yn asesu rôl hydrogen a gwresogi yn ein strategaeth wres, a fydd yn cael ei chyhoeddi y flwyddyn nesaf, ac fel rhan o'n gwaith cynllunio ynni. Rwy'n gobeithio, Janet, y byddwch yn cyflwyno sylwadau cryf i'ch cymheiriaid yn San Steffan, i sicrhau lefel uwch o gyllid, gan eich bod mor gefnogol i'r strategaeth hon. Mae ar gael i gefnogi prosiectau yn y dyfodol ar draws pob rhan o'r DU, gan gynnwys yng Nghymru.
Lywydd, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn, ac rydym yn nodi ein dull strategol i sicrhau y bydd hynny'n digwydd. Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddasom lwybr hydrogen i ymdrin â chyfleoedd ar gyfer hydrogen ar draws gwahanol sectorau, yn unol â'n huchelgeisiau polisi ynni ar gyfer cyflawni sero net. Mae ein llwybr a'i 10 amcan yn canolbwyntio ar gamau gweithredu tymor byr i lywio galw, cynhyrchiant a gweithredu trawsbleidiol hyd at 2025. Maent hefyd yn nodi ffyrdd o gynllunio ar gyfer prosiectau ar raddfa fwy, er mwyn sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda o ran technolegau hydrogen a chelloedd tanwydd.
Ers cyhoeddi llwybr hydrogen Cymru, mae rôl hydrogen yn y sector ynni yn ei gyfanrwydd bellach yn fwy sefydledig. Mae ein llwybr yn diffinio cyfres o gamau 'heb anfanteision' i alluogi Cymru i elwa ar yr ystod o fanteision a all ddeillio o fwy o ddefnydd o hydrogen. Mae adroddiadau i'r adroddiad ar y llwybr wedi'u dadansoddi, a'r argymhellion cychwynnol wedi'u crynhoi, a byddant yn cael eu cyhoeddi'n fuan iawn.
Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr yn cefnogi'r cysyniad o ddatblygu defnydd o ynni hydrogen yng Nghymru, ac er ein bod yn cydnabod, fel y gwnaeth Rhun yn bendant, nad yw hwn yn ateb i bob dim, rydym yn adlewyrchu'r farn am y rôl gynyddol i hydrogen ar draws ein cyhoeddiadau Cymru Sero Net hefyd. Wrth inni adeiladu ar y llwybr, bydd hyn yn darparu'r ffocws strategol sydd ei angen arnom i sicrhau bod hydrogen yn chwarae rhan bwysig i'n galluogi i gyrraedd ein targed sero net ac i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i fod ar flaen y gad yn y sector hwn sy'n datblygu.
Lywydd, rwy'n croesawu'r ddadl hon yn llwyr, a bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig fel y'i cynigiwyd, gan nodi datblygiad y llwybr hydrogen fel y strategaeth y mae'r cynnig yn galw amdani. Diolch.