Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 15 Mehefin 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i Rhianon Passmore am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar addysg cerddoriaeth. Fel y nodais yn fy natganiad llafar diweddar ar y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol a'r cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg cerddoriaeth, mae eich angerdd a'ch ymrwymiad i ymgyrchu ar bwysigrwydd addysg cerddoriaeth wedi bod heb ei ail. Mae llawer yn credu y dylai'r cynllun fod wedi cael ei alw'n gynllun Rhianon Passmore ar gyfer addysg cerddoriaeth. Ond rwyf hefyd yn cydnabod ei chydnabyddiaeth hael hi i gyfraniad llawer o bobl eraill i'w hymgyrch a'r modd y gwnaethant gyfrannu'n greadigol i'r dadleuon y mae hi wedi'u gwneud mor ddiwyd, gan gynnwys rôl ei chwaer ei hun, sydd, rwy'n gwybod, yn arbennig o arwyddocaol iddi. Hoffwn ychwanegu fy niolch hefyd i Jayne Bryant, a'i geiriau o ddiolch i'r tiwtoriaid a'r athrawon ledled Cymru sydd, o ddydd i ddydd, yn goleuo bywydau ein pobl ifanc drwy eu cyflwyno i fyd hyfryd cerddoriaeth.
Ddirprwy Lywydd, fel y soniodd Rhianon Passmore yn ei haraith agoriadol, mae thema'r ddadl yn cysylltu'n glir iawn â phwysigrwydd rhoi camau ar waith i gefnogi adferiad yn sgil y pandemig COVID. Mae'n sicr yn wir fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar addysg cerddoriaeth a bod angen canolbwyntio'n benodol bellach ar ailadeiladu a chefnogi llesiant ein plant a'n pobl ifanc, a bod hyn yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Rwy'n credu bod y pandemig hefyd wedi effeithio'n amlwg ar y cyfleoedd i wneud cerddoriaeth gydag eraill fel rhan o ensemble neu gôr neu fand pres yn yr ysgol, y gymuned, y gwasanaeth cerdd lleol, neu'n wir ar lefel genedlaethol. Ac rwy'n credu ei bod yn werth nodi mai un o'r elfennau allweddol yn y cynllun newydd yw'r rhaglen ar gerddoriaeth ar gyfer dysgu gydol oes, iechyd a llesiant, a fydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod dysgwyr, o oedran cynnar, yn cael eu cefnogi drwy weithgareddau cerddoriaeth a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli eu synhwyrau a'u dychymyg a thrwy hynny, y byddwn yn atal y distawrwydd y soniodd Rhianon Passmore amdano yn ei haraith agoriadol.
Mae hwn yn un o ystod eang o feysydd sydd wedi'u hymgorffori yn y model gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi'i ddatblygu drwy broses o gydadeiladu gyda'n rhanddeiliaid allweddol. Ein gweledigaeth ar gyfer y gwasanaeth yw darparu dull newydd radical y mae nifer wedi sôn amdano ar gyfer sicrhau dyfodol hirdymor a chynaliadwy i addysg cerddoriaeth. Ac yn rhan sylfaenol o hyn, rydym am sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc ledled Cymru, waeth beth fo'u cefndir, yn cael cyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau cerddorol a chymryd rhan ynddynt ac i ddysgu chwarae offeryn cerdd—y cyfleoedd digyfyngiad y soniodd Rhianon Passmore amdanynt.
Ac yn fy marn i, Ddirprwy Lywydd, caiff y sylfaen ar gyfer y gwasanaeth ei chryfhau drwy gysylltiadau agos â'r cwricwlwm er mwyn sicrhau mynediad i bob dysgwr, gan ddarparu gwell cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a phrofiadau. A chyda buddsoddiad ariannol sylweddol o £4.5 miliwn y flwyddyn, cyfanswm o £13.5 miliwn hyd at 2025, mae'r gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn cefnogi darpariaeth i ysgolion a lleoliadau ar sail ehangach, ac ensembles cerddorol hefyd, a cherddoriaeth mewn cymunedau, ynghyd â dysgu proffesiynol i ymarferwyr eu hunain.
Bydd cyflwyno'r elfennau penodol ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a lleoliadau yn dechrau o fis Medi ymlaen. Mewn ysgolion cynradd, bydd dysgwyr yn cael o leiaf hanner tymor o sesiynau blasu offerynnau cerdd a gyflwynir gan ymarferwyr cerddoriaeth hyfforddedig a medrus, a bydd y sesiynau hyn yn helpu plant i symud ymlaen yn eu profiadau o gymryd rhan mewn cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth, a bydd yn cefnogi anghenion unigol pob ysgol, os mynnwch, i wireddu maes celfyddydau mynegiannol y cwricwlwm. Ar lefel uwchradd, bydd ysgolion yn derbyn cyllid ar gyfer profiadau a fydd yn cefnogi iechyd a llesiant pobl ifanc a'u cynnydd tuag at gerddoriaeth TGAU, gan roi cyfleoedd iddynt ddatblygu wrth chwarae offeryn neu ganu, a meithrin eu doniau a'u huchelgeisiau, a darganfod y Shirley newydd, y Tom newydd neu'r Catrin newydd, gobeithio, fel y nodwyd eisoes.
Bydd y gwasanaeth cerddoriaeth yn cael ei ategu gan y cynllun cenedlaethol newydd ar gyfer addysg cerddoriaeth. Mae'n nodi'r weledigaeth y dylai profi llawenydd cerddoriaeth o bob math fod yn ganolog i bob ysgol a phob lleoliad, a bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd i'n holl blant a'n pobl ifanc allu chwarae, canu, cymryd rhan mewn cerddoriaeth a chreu cerddoriaeth, yn y cwricwlwm a hefyd yn y gymuned ehangach. Bydd hefyd yn darparu llwyfan ar gyfer dathlu'r diwylliant cyfoethog a'r etifeddiaeth genedlaethol sydd gennym, fel y nododd siaradwyr yn y ddadl eisoes.
Ac ar y lefel ehangach honno o gymorth sy'n canolbwyntio ar ddiwylliant, wrth ymateb i'r pandemig, rydym wedi darparu dros £60 miliwn o gyllid ar gyfer sefydliadau diwylliannol. Drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn cefnogi Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerdd Gymunedol Cymru, Live Music Now Cymru, Mid Wales Opera, Opera Cenedlaethol Cymru, Trac Cymru a Tŷ Cerdd, ac rydym wedi ymrwymo i sector diwylliant sy'n hygyrch, yn amrywiol ac yn gynhwysol, ac mae'r sector cerddoriaeth yn sicr yn arwain y ffordd ar hynny. Rwy'n siŵr y byddem i gyd yn cytuno â hynny.
Dylwn ychwanegu, i gloi, Ddirprwy Lywydd, fod llesiant wedi bod yn ganolbwynt allweddol i'n dull ehangach o gefnogi dysgwyr gydag effeithiau'r pandemig, ac mae hyn yn cyd-fynd â'r darlun cyffredinol hwnnw. Mae ein cynllun adnewyddu a diwygio, sydd wedi'i gefnogi gan dros £270 miliwn yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, yn rhoi iechyd a lles corfforol a meddyliol dysgwyr wrth wraidd ei ddull o weithredu. A boed yn Haf o Hwyl neu'r Gaeaf Llawn Lles, mae hynny wedi rhoi cyfle i lawer o'n pobl ifanc gael mynediad at weithgareddau diwylliannol a chreadigol. Ac rwy'n benderfynol o weld y pwyslais ar lesiant a hyblygrwydd a welsom yn ystod y pandemig yn sail i'r gwaith yr ydym yn sôn amdano yma heddiw ac yn cyd-fynd yn agos â'r cwricwlwm. A thrwy'r rhaglen o weithgareddau, bydd y gwasanaeth cerddoriaeth cenedlaethol yn gweithio i sicrhau nad yw diffyg arian yn rhwystr i ddysgu chwarae offeryn a bod pob plentyn a pherson ifanc, waeth beth fo'i gefndir, waeth beth fo incwm ei deulu, yn gallu elwa o addysg cerddoriaeth, fel y mae llawer ohonom wedi'i wneud. Diolch yn fawr.