Grŵp 7: Llesiant dysgwyr a diogelu dysgwyr (Gwelliannau 12, 13, 98, 99, 100)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:16, 21 Mehefin 2022

Diolch, Llywydd. Rwy’n galw ar Aelodau i gefnogi gwelliannau 12 ac 13, sy'n cyflwyno amodau cofrestru cychwynnol a pharhaus gorfodol newydd ynghylch effeithiolrwydd trefniadau darparwyr addysg drydyddol ar gyfer cefnogi a hyrwyddo lles eu staff a'u myfyrwyr. Bydd hyn yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i ba un a oes gan ddarparwyr brosesau, gwasanaethau a pholisïau priodol yn eu lle i gefnogi lles, llesiant a diogelwch myfyrwyr a staff.

Mae gan bawb yr hawl i gael profiad addysg hapus, ac rwyf am i Gymru feithrin enw da, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, am roi llesiant wrth wraidd ein system addysg. Gall diffyg cefnogaeth ar gyfer iechyd meddwl a llesiant fod yn rhwystr i lwyddiant mewn addysg i lawer o ddysgwyr a myfyrwyr. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod darparwyr yn mynd i’r afael â'r heriau hyn ac yn cael eu cefnogi i wneud hynny gan y comisiwn. Mae'n amlwg ein bod yn wynebu llawer o heriau ar draws y Deyrnas Unedig. Mae myfyrwyr amser llawn yn fwy tebygol o ddioddef ymosodiadau rhywiol na'r rhai mewn unrhyw grŵp galwedigaethol arall, ac mae bron i chwarter myfyrwyr ethnig lleiafrifol yn profi aflonyddu hiliol ar y campws. Mae myfyrwyr yn adrodd yn barhaus am lefelau is o hapusrwydd a lefelau uwch o bryder na'r boblogaeth yn gyffredinol, ac mae hyn wedi'i waethygu gan effeithiau diweddar y pandemig.

Dros y degawd diwethaf gwelwyd trobwynt, yn enwedig yn sector addysg uwch y Deyrnas Unedig, o ran sut mae darparwyr yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â bwlio ac aflonyddu ac yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant myfyrwyr, ac rwy’n credu y byddem ni i gyd yn cytuno bod angen mwy o gynnydd ar y materion hyn. Argymhellodd adroddiad gan Universities UK yn 2015 newidiadau ysgubol i'r ffyrdd y mae prifysgolion yn rheoli’r broses adrodd a’r cymorth i ddioddefwyr aflonyddu, trais a throseddau casineb, ac rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod angen gwneud mwy o gynnydd ar hyn. Yn Lloegr, nid yw'r Swyddfa Myfyrwyr yn rheoleiddio'n ffurfiol y ffordd y mae darparwyr addysg uwch yn hyrwyddo ac yn cefnogi lles myfyrwyr. Felly, byddwn ni'n mynd gam ymhellach yng Nghymru drwy sicrhau bod gan y comisiwn newydd y grym i roi blaenoriaeth i oruchwylio'r materion hollbwysig hyn.

Rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn ennyn cefnogaeth drawsbleidiol. Hoffwn ddiolch i Laura Anne Jones am gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 a dynnodd sylw at bwysigrwydd sicrhau bod iechyd meddwl a llesiant yn cael eu hadlewyrchu yn y darn hwn o ddeddfwriaeth. Rwy’n credu y bydd y gwelliannau a gyflwynir yma yng Nghyfnod 3 yn cynnig y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod y comisiwn yn hyrwyddo iechyd meddwl a llesiant dysgwyr. Allaf i ddim cefnogi gwelliannau 98, 99 a 100. Fel dywedais i pan gynigiwyd y rhain yn ystod gwaith craffu Cyfnod 2, mae angen i'r comisiwn gadw'r gallu i addasu cynlluniau diogelu dysgwyr er mwyn sicrhau bod y cynlluniau'n gadarn ac yn parhau i ganolbwyntio ar y dysgwr. Galwaf ar Aelodau, felly, i gefnogi gwelliannau 12 a 13 ac i wrthod pob gwelliant arall yn y grŵp hwn.