Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 21 Mehefin 2022.
Hoffwn ategu llawer o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud a hoffwn ddiolch iddo hefyd am fwrw ymlaen â'n gwelliant gwreiddiol a chefnogi'r bwriadau a nodwyd yn wreiddiol gan y Ceidwadwyr Cymreig o ran llesiant ac amddiffyn dysgwyr.
Hoffwn gynnig gwelliannau 98, 99 a 100. Cyflwynwyd gwelliant 98 a'i ddau welliant canlyniadol eto i ail-bwysleisio awgrym Prifysgolion Cymru i'r comisiwn allu cymeradwyo'r cynllun amddiffyn dysgwyr gydag addasiadau neu hebddyn nhw. Mae'n rhaid i'r comisiwn allu pennu gofynion fel amod ar gyfer cymeradwyo, a dylai fod yn fater i'r corff llywodraethu benderfynu a ddylid derbyn yr addasiadau ai peidio. Mater i'r comisiwn hefyd fyddai penderfynu a ddylid cymeradwyo neu wrthod y cynllun. Fodd bynnag, mae'n ymddangos y byddai ymdrechion i wrthwynebu addasiadau yn uniongyrchol heb ganiatâd darparwyr yn peri'r risg na fyddai'r comisiwn yn cyflawni ei ddyletswydd o ran cyfraith elusennau, sy'n golygu bod y ddeddfwriaeth yn dibynnu ar ddarpariaethau nad ydyn nhw'n ymarferol. Felly, pwysleisiaf eto yma yng Nghyfnod 3 y dylid diwygio'r cymal i ddileu'r gallu i'r comisiwn wneud newidiadau unochrog i gynlluniau. Gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn. Diolch.