Grŵp 8: Prentisiaethau (Gwelliannau 86, 97, 114, 116)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Conservative 5:22, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Hoffwn i siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rwy'n credu mewn system addysg drydyddol fwy cyflawn, gan gynnwys rhaglenni hyfforddeiaeth, rhaglenni cyflogadwyedd a phrentisiaethau, ac felly rwy'n dal i bryderu am le'r rhaglenni hyn yn y Bil. Mae eu cynnwys yn llawn yn gwbl hanfodol i wella economi gynaliadwy ac arloesol. Mae gwelliant 86 yn bodoli i gael rhagor o wybodaeth am y cyfrifoldeb am yr arolygiad neu adolygiad o brentisiaethau gradd. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl hanfodol ei bod hi'n cael ei gwneud yn eglur bod dyletswydd y comisiwn i asesu ansawdd addysg uwch yn cynnwys prentisiaethau gradd.

O ran gwelliant 97, rwy'n ceisio ei gwneud yn eglur y gall Rhan 4 y Bil fod yn berthnasol i brentisiaethau gradd, os caiff yr amodau eraill yn adran 109 y Bil eu bodloni. Ymhellach ar hyn, byddai gwelliant 114 yn diffinio prentisiaethau gradd yn eglur yn y Bil i sicrhau bod y diffiniad yn cwmpasu unrhyw gwrs sy'n cyfuno addysg uwch ran-amser a phrentisiaeth gymeradwy yng Nghymru, fel y'i diffinnir yn adran 109. Gyda hyn mewn golwg, rwyf i hefyd yn cyflwyno gwelliant 116 er mwyn ychwanegu prentisiaethau gradd at y diffiniad ehangach o addysg drydyddol yn y Bil, ochr yn ochr ag addysg uwch, addysg bellach a hyfforddiant, a gofynnaf i'r Gweinidog ystyried hyn.