Grŵp 8: Prentisiaethau (Gwelliannau 86, 97, 114, 116)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 21 Mehefin 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:23, 21 Mehefin 2022

(Cyfieithwyd)

Nodaf y pryderon y mae'r Aelod wedi eu mynegi, ond rwy'n gobeithio y bydd o gysur iddi i mi ddweud nad oes sail gadarn iddyn nhw yn nrafft y Bil mewn gwirionedd, ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod gwelliannau 114 ac 116, dim ond oherwydd nad oes eu hangen. Nid oes angen cyflwyno diffiniad cyfreithiol newydd ar wahân o brentisiaethau gradd, gan eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn y diffiniadau presennol yn y Bil. Hefyd, mae diffinio 'prentisiaethau gradd' ar wahân i 'brentisiaethau' yn peri'r risg o amwysedd ynghylch a yw prentisiaethau gradd o fewn cwmpas y cyfeiriadau niferus at brentisiaethau mewn mannau eraill yn y Bil ai peidio.

Nid oes angen gwelliant 86 chwaith, gan nad oes angen gwneud unrhyw ddarpariaeth bellach i sicrhau bod y trefniadau asesu ansawdd priodol ar waith ar gyfer prentisiaethau gradd yng Nghymru. Fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, mae'r Bil yn eglur ynghylch y trefniadau ar gyfer sicrhau ansawdd addysg bellach ac addysg uwch, a'r comisiwn sy'n gyfrifol am y ddau faes. Mae'r trefniadau hyn eisoes yn darparu digon o sylw i brentisiaethau gradd.

Mae adran 54 y Bil yn darparu ar gyfer asesu ansawdd ym maes addysg uwch, ac mae prentisiaethau gradd yn cynnwys elfennau o addysg uwch. Gall hyn wedyn ganiatáu dirprwyaeth i gorff dynodedig ar gyfer asesu ansawdd addysg uwch o dan adran 54 ac Atodlen 3. Nid yw hyn yn annhebyg i'r gyfraith ar hyn o bryd, sydd hefyd yn eglur. Mae gan CCAUC ddyletswydd debyg ar hyn o bryd o dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015.

Rwy'n sylweddoli y bu ystyriaethau o fewn y sector ynghylch pa swyddogaeth y gallai ac y dylai Estyn ei chyflawni o ran goruchwylio ansawdd prentisiaethau gradd, o ystyried eu profiad o arolygu prentisiaethau eraill, a chafwyd trafodaethau i'r perwyl hwn rhwng rhanddeiliaid perthnasol. Bydd y comisiwn yn gwneud penderfyniad terfynol ar hyn, ac os penderfynir y dylai prentisiaethau gradd fod yn rhan o gylch gwaith Estyn, gellir gwneud rheoliadau o dan adran 57(1)(f) heb unrhyw ddiwygiad i'r testun presennol.

Mae gwelliant 97 hefyd yn ddiangen. Mae unrhyw drefniant sy'n bodloni'r meini prawf a nodir yn is-adrannau (2), (3) a (4) adran 102 eisoes yn brentisiaeth cymeradwy yng Nghymru. Felly, ni welaf unrhyw angen i nodi hyn ymhellach ar wyneb y Bil hwn. Ac felly galwaf ar yr Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn.