– Senedd Cymru am 5:50 pm ar 21 Mehefin 2022.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 12, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â diffiniadau o addysg bellach. Gwelliant 39 yw'r prif welliant. Y Gweinidog i gynnig y gwelliant hwnnw ac i siarad i'r grŵp.
Diolch, Llywydd. Mae gwelliannau 39, 40 a 41 a gyflwynwyd yn fy enw i yn egluro'r disgrifiadau o lefelau cymwysterau at ddibenion dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddisgrifio addysg a hyfforddiant perthnasol at ddibenion dyletswydd y comisiwn i sicrhau cyfleusterau priodol ar gyfer addysg bellach a hyfforddiant i bobl 19 oed neu hŷn. Mae'r diwygiadau'n egluro, pan fydd Gweinidogion Cymru yn pennu lefel cyrhaeddiad at ddibenion y rheoliadau hyn, y cânt wneud hynny gan gyfeirio at fframwaith credydau a chymwysterau Cymru neu ddogfen arall a bennir gan Weinidogion Cymru sy'n disgrifio lefelau cymwysterau. Mae cyflwyno'r fframwaith credydau a chymwysterau i Gymru fel pwynt cyfeirio ar gyfer disgrifio lefelau cymwysterau yn fwy cynhwysfawr na'r hyn a geir yn y Bil fel y'i cyflwynwyd, a oedd dim ond yn cyfeirio at gymwysterau TGAU a Safon Uwch. Er nad yw'r gwelliant yn newid effaith yr adran hon yn sylweddol, mae'n tanlinellu ein hymrwymiad i fwy o barch cydradd rhwng cymwysterau galwedigaethol ac academaidd drwy integreiddio pwynt cyfeirio mwy cyffredinol FfCChC, sy'n cynnwys pob math o gymwysterau. Felly, galwaf ar Aelodau i gefnogi'r gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw i.
Does gyda fi neb eisiau cyfrannu ar y grŵp yma ymhellach i'r Gweinidog. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 39? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir gwelliant 39.
Ydy'r Gweinidog yn cynnig gwelliant 40?
Ydy. Felly, a oes gwrthwynebiad i welliant 40? Nac oes. Felly, mae gwelliant 40 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 41. A ydy'r Gweinidog yn ei gynnig e?
Ydy. A oes gwrthwynebiad? Nac oes. Felly, mae gwelliant 41 wedi ei dderbyn.
Gwelliant 89, Laura Anne Jones, a yw'n cael ei gynnig?
Ydy, mae'n cael ei symud. A oes gwrthwynebiad i welliant 89? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 89. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 89. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn gwrthwynebu, ac felly mae gwelliant 89 wedi ei wrthod.
Gweinidog, gwelliant 42 yn cael ei symud?
Ydy, mae gwelliant 42 wedi ei symud.
A oes gwrthwynebiad i welliant 42? Dim gwrthwynebiad i welliant 42.
Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.